Mae cyn gapten Cymru a’r Llewod, Gareth Thomas wedi gorffen y broses o ymuno gyda chlwb rygbi’r gynghrair y Crusaders.
“Mae’n gyffrous i weld uchelgais y clwb ac mae chwarae i rywun gyda phrofiad Brian Noble a Iestyn Harris yn rhywbeth rwy’n edrych ymlaen at wneud hynny,” meddai Gareth Thomas.
“Dyw symud i’r Crusaders ddim byd i wneud ag arian, ond mae’n gyfle i mi gael her newydd ar y cae, ac i hyrwyddo rygbi yng ngogledd Cymru hefyd.”
Enillodd Gareth Thomas 100 o gapiau dros Gymru ac roedd yn gapten arnyn nhw ac ar y Llewod ar eu taith i Seland Newydd yn 2005.
“Mae’n ddiwrnod enfawr yn hanes y Crusaders,” meddai’r clwb. “Mae cael chwaraewr o statws a safon Gareth Thomas i’r Cae Ras yn rhywbeth arbennig yma yn Wrecsam. R’yn ni’n awyddus i rygbi’r gynghrair lwyddo yng ngogledd Cymru.”
Noble yn croesawu
Mae hyfforddwr y Crusaders, Brian Noble, hefyd wedi croesawu Gareth Thomas – er gwaetha’ rhybuddion cyn chwaraewyr fel Scott Quinnell ei bod yn anodd iawn newid côd.
“Rwy’n credu bod Gareth yn chwaraewr gwych. Mae’n athletwr arbennig ac rwy’n gefnogwr mawr o’i dalentau”, meddai Noble.
“Mae ganddo’r holl briodoleddau angenrheidiol i lwyddo yn rygbi’r gynghrair- mae’n fawr ac yn gryf a does dim arno ddim ofn gweithio’n galed wrth amddiffyn.
“Fe fydd yn ychwanegu llawer i’r tîm yn ogystal â chodi proffil y gêm yng Nghymru”, ychwanegodd Noble.