Mae’r Prif Weinidog wedi amddiffyn y penderfyniad i fynd i ryfel ag Irac, ac wedi honni fod digon o arian wedi cael ei roi at yr ymgyrch.

Dywedodd ei fod wedi cael gwybodaeth lawn am ddatblygiadau cyn y penderfyniad i fynd i ryfel ond ei fod yn “edifar” am y methiant i baratoi am y cyfnod wedi’r ymladd.

Fe ddywedodd Gordon Brown wrth Ymchwiliad Chilcot ei fod yn drist iawn am nifer anferth y marwolaethau yn Irac.

Does neb eisiau mynd i ryfel, meddai, does neb eisiau gweld pobol ddiniwed yn marw a does neb eisiau gweld y lluoedd arfog yn peryglu eu bywydau.

“Does neb am wneud y penderfyniadau yma … ond dw i’n credu mai dyna oedd y penderfyniad iawn a wnaed am y rhesymau cywir.”

Mae “gwersi pwysig” i’w dysgu meddai, yn sgil yr anrhefn a ddigwyddodd yn y wlad yn dilyn y rhyfel ac roedd yn difaru na lwyddodd yn well i berswadio’r Americaniaid bod ail adeiladu yr un mor allweddol â chynllunio ar gyfer y rhyfel.

Digon o arian

Fe wadodd Gordon Brown honiadau nad oedd wedi rhoi digon o arian at yr ymgyrch – roedd wedi dweud wrth Tony Blair, meddai, mai’r peth pwysica’ oedd lles y lluoedd arfog.

“Fe ddywedais i wrtho na fyddwn i – ac roedd hyn yn syth ar y dechrau – fyddwn i ddim yn ceisio diystyried unrhyw opsiwn milwrol ar sail cost … i’r gwrthwyneb.”

Mae rhai tystion yn yr ymchwiliad wedi honni bod toriadau wedi’u gwneud mewn gwario yn 2003 a bod hynny wedi effeithio ar allu cyffredinol y lluoedd arfog.

Roedd papur newydd y Times heddiw wedi awgrymu bod toriadau mewn gwario ar amddiffyn wedi arwain at golli bywydau yn Irac.

Llun: Protest y tu allan i’r Ymchwiliad (Gwifren PA)