Fe fu farw’r dyn a arweiniodd y gwaith o ddatblygu un o atyniadau ymwelwyr mwya’ Cymru.
Tra oedd John Japheth yn bennaeth Gwersyll yr Urdd yn Llangrannog, fe gafodd ei droi o fod yn gasgliad o bebyll a chytiau i fod yn ganolfan wyliau a hamdden go iawn.
Mae’r ganolfan bellach yn cyflogi mwy na 100 o bobol ac yn cynnwys adnoddau fel llethr sgïo, pwll nofio a chanolfan gertio yn ogystal â llety ac adnoddau bwyta modern iawn.
Trwy ei waith yno yn yr 1970au, roedd John Japheth yn adnabyddus i ddegau o filoedd o blant ac, yn ddiweddarach i gannoedd o athrawon, trwy ei waith yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin.
‘Ysbrydoli’
“Roedd wedi ysbrydoli cenedlaethau o blant ac athrawon,” meddai Wynne Melville Jones un o Lywyddion Anrhydeddus yr Urdd a chyn gydweithiwr i John Japheth. “Roedd e’n ddyn yr Urdd.”
Fe fu farw John Japheth yn ynys Melita – Malta – ar ôl bod yn yr ysbyty yn ddifrifol wael. Roedd yn deithiwr mawr ac wedi bod yn dysgu Saesneg mewn sawl gwlad yn y Dwyrain Pell.
Ond am ei waith yn Llangrannog y bydd yn cael ei gofio’n benna’.
“Fe ddysgodd lawer iawn i fi sut i drin pobol,” meddai Steff Jenkins, pennaeth presennol y Ganolfan a ddechreuodd yno yn nyddiau John Japheth. “Roedd e’n arbennig o dda gyda phobol ac yn meddwl y byd o’r plant.”
Dyn o ardal Trefor yn Sir Gaernarfon oedd John Japheth ac roedd wedi bod yn blismon cyn dechrau gweithio i’r Urdd.