Fydd Mesur yr Iaith Gymraeg ddim yn cael ei gyhoeddi heddiw, er gwaetha’ cyhoeddiad fel arall.

Roedd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, wedi gobeithio defnyddio Dydd Gŵyl Dewi i gyhoeddi union fanylion y cynnig at ddeddf iaith newydd.

Mae ffynhonnell o fewn y Llywodraeth wedi dweud wrth Golwg360 eu bod wedi methu â chael cytundeb ffurfiol adrannau llywodraeth yn Whitehall mewn pryd.

Gohirio

Fe wnaed y penderfyniad i ohirio yn hwyr brynhawn Gwener, er bod peth cyhoeddusrwydd eisoes wedi ei roi ac er bod y ‘Datganiad Deddfwriaethol’ ar amserlen y Cynulliad fory.

Mae’n ymddangos mai’r broblem yw bod y Mesur yn un cymhleth sy’n debyg o effeithio ar nifer o adrannau o fewn y Llywodraeth yn Llundain a bod angen i’r rheiny – ac unigolion o fewn y Llywodraeth – ddweud eu bod yn fodlon.

Fe fydd y Mesur yn creu swydd Comisiynydd Iaith ac yn rhoi dyletswydd ar rai cwmnïau preifat i roi lle i’r Gymraeg.

‘Proses ffurfiol’

Yn ôl ffynhonnell Golwg360, does dim disgwyl problemau yn y pen draw, ond bod angen mynd trwy’r broses ffurfiol o gael cytundeb ar y manylion.

Ar un adeg, roedd y Llywodraeth wedi gobeithio y byddai hynny’n digwydd mewn pryd i gyhoeddi’r Mesur heddiw; erbyn prynhawn dydd Gwener, fe ddaeth yn amlwg nad oedd digon o amser i wneud hynny.

Doedd Alun Ffred Jones, ddim yn fodlon rhoi sylw ar y manylion. “Dw i’n hyderus y bydd y Mesur yn gweld golau dydd yn fuan,” meddai.