Mae Sain Ffagan wedi cymryd y cam cynta’ at grant o bron £9 miliwn i adnewyddu rhannau o’r amgueddfa.

Fe gyhoeddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri eu bod yn cefnogi’r cynllun ar egwyddor ac mae gan yr amgueddfa werin – sy’n rhan o Amgueddfa Cymru – ddwy flynedd i gynnig cynlluniau manwl.

Cyfanswm y grant fyddai £8.7 miliwn, a hwnnw’n cael ei ddefnyddio i adnewyddu rhai o’r orielau ac i greu ‘pafiliwn gwyrdd’ a fyddai’n rhoi cyfle i ymwelwyr weld archeolegwyr wrth eu gwaith.

“Mae’n addas cyhoeddi cefnogaeth gychwynnol y Gronfa Dreftadaeth i Sain Ffagan ar Ddydd Gŵyl Dewi, a hithau wedi cyfrannu cymaint at ddeall hunaniaeth Gymreig,” meddai Cadeirydd y Gronfa, Jenny Abramsky.

Mwya’ poblogaidd

Ers cael gwared ar bris mynediad, mae niferoedd ymwelwyr â Sain Ffagan wedi cynyddu’n sylweddol. Hi, bellach, yw’r atyniad mwya’ poblogaidd yng Nghymru, gyda thua 600,000 o bobol yn ymweld bob blwyddyn.

Tra bod mwy a mwy o adeiladau hanesyddol wedi cael eu codi yn yr amgueddfa awyr-agored, does dim llawer o waith wedi ei wneud ar yr orielau arddangos.

Fe gafodd yr amgueddfa ei hagor yn 1948 ar dir Castell Sain Ffagan, a oedd yn eiddo i iarll Plymouth, ac mae mwy na 40 o adeiladau wedi eu symud yno o wahanol rannau o Gymru.

Llun: Castell Sain Ffagqan (Gwifren PA)