Fe fydd tad yn mynd gerbron llys heddiw wedi ei gyhuddo o ladd ei ferch ei hun.
Fe fydd Gary John Fisher, 47, o Solihull, ger Birmingham, yn ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe.
Mae wedi ei gyhuddo o lofruddio Chanelle Sasha Jones, 17 oed, o Aberteifi.
Fe ddaeth heddlu o hyd i’w chorff hi mewn car Ford Fiesta ger Aberaeron ym mis Awst y llynedd.
Roedden y car wedi teithio trwy rannau helaeth o orllewin Cymru ac fe fu’n rhaid i Heddlu Dyfed Powys ddefnyddio offer ‘stinger’ er mwyn ei atal.
Fe fu ffordd fawr yr A487 ynghau am fwy na diwrnod oherwydd yr ymchwiliadau.