Fe fyddai mwyafrif pobol Cymru yn pleidleisio o blaid grymoedd deddfu llawn mewn refferendwm.

Yn ôl pôl piniwn i BBC Cymru, fe fyddai 56% yn dweud ‘Ie’ a dim ond 35% yn dweud ‘Na’.

Mae hynny’n golygu bod y mwyafrif o blaid wedi treblu yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’ – o 7% yn 2008 i 21% eleni.

Mae’r broses o gynnal refferendwm eisoes wedi dechrau – y cam nesa’ yw ystyried y dyddiad ac union eiriau’r cwestiynau.

Trethi hefyd

Roedd 40% wedi dweud wrth gwmni arolygon ICM y bydden nhw’n pleidleisio hefyd o blaid rhywfaint o hawliau trethu i Lywodraeth y Cynulliad.

Ar hyn o bryd, mae Comisiwn Holtham – dan arweiniad yr arbenigwr ariannol Gerald Holtham – yn ystyried yr union bwnc ar ran y Llywodraeth.

Y disgwyl yw y byddan nhw’n argymell rhywfaint o allu i addasu treth incwm ac efallai hawl ar un neu ddwy o drethi llai.

Gyda’r polau piniwn Prydeinig yn dangos Llafur yn ennill tir, roedd yna ragor o newyddion da i’r blaid yng Nghymru hefyd.

Wrth ateb pa dîm economaidd yr oedden nhw’n ymddiried ynddo i wynebu’r dirwasgiad, roedd 47% yn enwi Gordon Brown a Carwyn Jones a dim ond 24% yn enwi’r Ceidwadwyr, David Cameron a Nick Bourne.

‘Y Prif Weinidog Gorau’

Yr un oedd y neges o ran arweinwyr yng Nghymru – dyma’r sgôr ar gyfer ‘y Prif Weinidog gorau’:

Carwyn Jones, Llafur 38%
Ieuan Wyn Jones, Plaid 16%
Nick Bourne, Ceidwadwyr 10%
Kirsty Williams, Dem. Rh. 10%