Mae’r heddlu’n chwilio am ddyn 21 oed ar ôl i gyrff ei bartner a’u merch fach wyth mis oed gael eu darganfod yn eu cartref ger Southampton ddoe.
Maen nhw’n amau fod Anthony Marsh, y credir bod ganddo hanes o salwch meddwl, wedi llofruddio Stephanie Bellinger, 24 oed a’u merch Lily. Nid oes neb wedi ei weld ers y digwyddiad.
Dangosodd profion heddiw mai cael ei thrywanu a wnaeth Stephanie Bellinger – bydd profion yn cael eu cynnal ar y ferch yfory.
Mewn cynhadledd newyddion heddiw, fe wnaeth Wendy Marsh, mam Anthony Marsh apêl emosiyniol ar iddo roi ei hun i’r heddlu.
“Mae pawb o’th deulu’n bryderus iawn amdanat,” meddai. “Maen nhw yma i’th gefnogi mewn unrhyw ffordd y gallan nhw. Does dim pwynt rhedeg i ffwrdd na chuddio.
“Beth bynnag sydd wedi digwydd rhaid iti fynd at yr heddlu, neu eu ffonio nhw a dweud lle’r wyt ti.”
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am Anthony Marsh ond yn rhybuddio’r cyhoedd i gadw draw oddi wrtho gan ei fod yn ddyn peryglus ac y gall fod yn arfog.
Caiff ei ddisgrifio fel dyn gwyn, 6 troedfedd 2 fodfedd, gyda gwallt golau byr, llygaid brown, tenau o ran corffolaeth a thatŵ ar ei fraich chwith.
Llun: Wendy Marsh, mam Anthony Marsh yn cyrraedd cynhadledd newyddion yr heddlu yn Southampton (Barry Batchelor/Gwifren PA)