Yn ôl arlywydd y wlad, mae’r daeargryn yn Chile wedi lladd o leiaf 708 o bobl – sy’n fwy na dwywaith yr amcangyfrif yn gynharach heddiw.
Dywedodd yr Arlywydd Michelle Bachelet mewn cynhadledd newyddion heno fod Chile “yn wynebu trychineb mor anferthol fel y bydd gofyn am ymdrech aruthrol” i adfer y wlad.
Fe fu’n siarad yn y gynhadledd ar ôl cyfarfod am chwe awr gyda swyddogion argyfwng sy’n ceisio dygymod â’r daeargryn yn mesur 8.8 ger dinas Conception ddoe. Mae dros 100 wedi eu lladd yn y ddinas ei hun.
Dywedodd yr Arlywydd fod nifer cynyddol o bobl ar goll, a chyhoeddodd ei bod wedi cyflwyno cyfrifoldeb am ddiogelwch i’r lluoedd arfog yn nhalaith Conception – ar ôl i ladron fod yn dwyn o archfarchnadoedd, gorsafoedd petrol, fferyllfeydd a banciau a oedd wedi cael eu difrodi yn y daeargryn.
Bu’r heddlu’n defnyddio canon dŵr a nwy dagrau i wasgaru pobl yn dwyn o archfarchnad yn y ddinas, a chafodd dau beiriant arian twll-yn-y-wal eu torri er mwyn dwyn arian.
Yr adeilad mwyaf i gael ei ddifrodi yn y ddinas oedd bloc 15 llawr o fflatiau a ddisgynnodd yn ôl gan gaethiwo tua 60 o bobl o’i fewn. Hyd yma, mae 16 o bobl wedi eu hachub oddiyno’n fyw, a chwech o gyrff wedi cael eu darganfod.
Yn ôl Robert Williams, geoffisegwr sy’n gweithio i Arolwg Daearegol llywodraeth yr Unol Daleithiau, roedd daeargryn Chile gannoedd o weithiau’n fwy pwerus na daeargryn Haiti a oedd yn mesur 7 ar raddfa Richter.
Roedd y daeargryn ddoe, er ei fod yn ddyfnach, a heb achosi yn agos gymaint o farwolaethau, y seithfed cryfaf erioed i gael ei gofnodi yn y byd.
Digwyddodd y daeargryn mwyaf pwerus i gael ei gofnodi erioed yn union yr un ardal yn Chile ar 22 Mai, 1960. Roedd y daeargryn hwnnw’n mesur 9.5 ar raddfa Richter, ac achosodd farwolaeth 1,655 o bobl a gwneud 2 filiwn o bobl yn ddigartref.
Llun: Dau ddyn o flaen adeilad wedi’i chwalu yn Conception (AP Photo/Aliosha Marquez)