A hithau’n 200 mlynedd ers geni’r cyfansoddwr Frédéric Chopin, mae awdurdod ar ei weithiau’n rhybuddio yn erbyn ‘ail-gyfansoddi’ ei gerddoriaeth.

Pryder yr ysgolhaig Angela Lear, sy’n ddehonglydd byd-eang o waith Chopin, yw fod rhannau o’i waith yn cael “ei ail-gyfansoddi” gan olygyddion a phianyddion er mwyn “hwyluso’r gofynion technegol eithafol mae’r cyfansoddwr yn ei roi ar berfformwyr.”

“I wirioneddol ddathlu daucanmlwyddiant y cyfansoddwr mawr hwn, y ffordd orau i’w wasanaethu yw drwy herio unrhyw ail-gyfansoddid o’i gerddoriaeth odidog,” meddai Angela Lear o Essex sydd wedi astudio llawysgrifau gwreiddiol y cyfansoddwr.

“Mae gan y cyhoedd pob hawl i ddisgwyl clywed cerddoriaeth Chopin yn cael ei ail-greu gan berfformwyr – ond nid i glywed fersiynau llawn newidiadau personol wedi’u gwneud i’w sgoriau,” dywedodd.

Yn ôl yr arbenigwraig, mae cerddoriaeth piano Chopin wedi cadw ei boblogrwydd dros y blynyddoedd oherwydd bod ei waith yn “cyffwrdd calonnau ac eneidiau pobl ar draws y byd.”

Nid “plentyn ei amser”

Doedd Chopin ddim yn ystyried ei hun fel ‘plentyn ei amser’ mewn cyd-destun ‘Rhamantaidd’, yn ôl Angela Lear.

“Roedd yn parchu cerddoriaeth Mozart a Bach uwchlaw ei gyfoeswyr,” meddai wrth sôn am gerddoriaeth “cain” cyfansoddwr y mae’n ei ddisgrifio fel un “unigryw.”

“Mae cerddorion a phobl gyffredin yn rhannu eu gwerthfawrogiad o harddwch cain cerddoriaeth Chopin, o rythmau ‘lilt’ ei Mazurkas, i ysbryd gwladgarol ei Polonaises.”

Fe gafodd Frédéric François Chopin ei eni yn 1810 ym mhentref Zelazowa Wola i’r gorllewin o Warsaw. Roedd y pianydd ifanc yn cael ei ystyried fel athrylith ers pan oedd yn ddim o beth.

Mae gweithiau Piano Chopin yn gofyn am allu technegol perfformio arbennig. Yn ystod ei yrfa, fe wnaeth y cerddor a’r pianydd enwog gyfansoddi llawer o Sonatau, Mazurkas, hwyrganau, études lliwgar a phreliwdiau.

Llun: Ffotograff o Chopin a gafodd ei dynnu yn 1849, y flwyddyn y bu farw