Fel y cyhoeddwyd yn y stori newyddion, merched yw awduron pob un o’r llyfrau Cymraeg sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau Tir Na N-Og i awduron llyfrau plant eleni. Bu Golwg360 yn siarad ag un o’r awduron, Manon Steffan Ros.
“Roedd ffeindio allan fy mod i ar y rhestr yn brofiad anhygoel – doedd gen i ddim syniad,” meddai Manon Steffan Ros.
Mae ei nofel Trwy’r Tonnau wedi ei ysgrifennu ar gyfer plant oedran ysgol gynradd, ac mae’n ddilyniant i nofel flaenorol, Trwy’r Darlun.
“Roedd ysgrifennu’r ail lyfr yn anoddach – roedd gen i’r cyntaf yn hongian uwch fy mhen – ro’ ni eisiau bod yn driw i’r cymeriadau ac eisiau ei datblygu,” meddai.
Mae wedi seilio’r prif gymeriad ar ei mam – a fu farw ychydig flynyddoedd cyn geni ei phlentyn cyntaf, Efan Dafydd Ros.
“Doeddwn i ddim eisiau i mam fod yn berson mewn llun yn unig i Efan … Ro’ ni eisiau iddi fod yn fwy na hynny … i Efan gael dod i’w nabod,” meddai’r awdures sy’n hanu o Riwlas, ac sydd bellach wrthi’n ysgrifennu llyfr ffantasi i blant rhwng 9-13.
Er bod Manon Steffan Ros yn “gobeithio” y bydd dilyniant i Trwy’r Tonnau fe hoffai “wneud pethau eraill” fel “efallai nofel arall i oedolion” cyn hynny meddai – gan gyfaddef ei bod yn “gwybod” stori’r drioleg yn barod.
‘Modern a chyffrous’
“Mae T. Llew Jones wedi gadael nofelau gwych ar ei ôl ac mae angen pethau modern a chyffrous nawr,” meddai.
Fel arfer wrth ysgrifennu, mae’r awdures yn “meddwl am gymeriad gyntaf” boed hwnnw’n “fwystfil neu’n ysbryd” ac wedyn yn “adeiladu o gwmpas hynny” meddai, er ei bod “wastad yn newid y peth yn gyfan gwbl” yn y diwedd.
Er ei bod wedi ysgrifennu nofel i oedolion a llyfrau plant dyw’r awdures ddim eisiau i bobl ei chategoreiddio:
“Dw i ddim eisiau i bobl feddwl mai llyfrau plant yw fy mara menyn ac mai llyfrau oedolion sy’n dod a’r holl beth cymhlethach creadigol drwodd,” meddai. “Dw i’n sgwennu am fy mod i eisiau gwneud hynny.”
‘Petha’ gwyn yn disgyn o’r nefoedd’
Mae gan yr awdures ddau o blant ifanc, Geraint sydd ychydig fisoedd oed ac Efan sy’n bedwar ac mae bod yn fam ifanc yn ei helpu gyda’i hysgrifennu, meddai.
“Mae plant yn dod i fyny hefo pethau mor wahanol ac yn meddwl mewn ffordd hollol boncyrs ond gonest,” meddai.
“Roedd Efan yn meddwl fod eira’r peth mwyaf anhygoel.
“Mi wnes innau feddwl am eira wedyn fel – petha’ gwyn yn disgyn o’r nefoedd … Hollol ryfedd,” meddai, cyn dweud fod dychymyg plant yn ei helpu i “werthfawrogi pethau’n fwy” fel awdures.