Merched yw awduron pob un o’r chwe llyfr Cymraeg sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau Tir Na-Nog am eleni.
Caiff y gwobrau eu dyfarnu bob blwyddyn i anrhydeddu awduron llyfrau plant, ac mae dau gategori ar gyfer llyfrau Cymraeg – sef rhai i blant oedran ysgolion cynradd a rhai oedrannau ysgolion uwchradd.
Y tri llyfr ar gyfer plant ysgolion cynradd yw:
• Dathlu Tywysogion Cymru – cyfrol liw-llawn o hanes tywysogion Cymru gan Elin Meek
• Siocled Poeth a Marshmalos – casgliad o gerddi gan Caryl Parry Jones yn seiliedig ar ei ei blwyddyn fel Bardd Plant Cymru 2007-2008
• Trwy’r Tonnau – nofel gan Manon Steffan Ros sy’n ddiliyniant i’w nofel Trwy’r Darlun i blant 9-13 oed.
Nofelau gan dair awdures ifanc yw’r tri llyfr sydd wedi cael eu henwebu yn y categori uwchradd: Aderyn Brau gan Mared Llwyd; Codi Bwganod gan Rhiannon Wyn; a Yani gan Mari Stevens. Mae’r tri llyfr wedi eu cyhoeddi gan Wasg y Lolfa.
Llun: Manon Steffan Ros a’i dau blentyn Efan a Geraint – gweler stori amdani hi a’i gwaith yn yr adran Gelfyddydau.