Er gwaethaf adfywiad ail hanner arall, colli oedd hanes Cymu’n erbyn y Ffrancwyr. Pwy oedd ar fai am y golled? Pwy sy’n haeddu cadw eu lle i’r gêm nesaf? Arbennigwr rygbi Golwg 360, Geraint Criddle, sy’n asesu perfformiad chwaraewyr unigol Cymru:

Lee Byrne – camgymeriadau elfennol yn britho’i berfformiad, ond fe lwyddodd i redeg yn dda ar adegau. (4)

Leigh Halfpenny – cymerodd ei gais yn dda, ond dim digon o gyfleoedd. Dim camgymeriadau o ystyried iddo fod o dan bwysau. (6)

James Hook – rhyng-gipiad oedd mor hawdd ei ddarllen. Ambell fflach fan hyn a fan draw, ond fe ddifethodd sawl cyfle.  (3)

Jamie Roberts – fe wnaeth y pethau sylfaenol yn dda iawn unwaith eto, ond fe adawodd i Bastareaud effeithio’n ormodol ar ei gêm. (6)

Shane Williams – unwaith eto’n sbarduno adfywiad Cymru yn yr ail hanner. Mae’n anodd meddwl sut byddai’r ymosod hebddo. (7)

Stephen Jones – mor, mor betrusgar, sy’n anarferol iawn i chwaraewr profiadol. Oes angen rhoi cyfle i Dan Biggar? (5)

Richie Rees – y gwrthwyneb i Cooper, yn gwneud penderfyniadau da ac yn symud y bêl yn gyflym. (7)

Paul James – sgrymio derbyniol, ond mae angen Gethin Jenkins yn druenus. (3)

Huw Bennett – hen bryd i Ken Owens gael ei gyfle. Taflu gwael a dim digon o gario o amgylch y cae. (2)

Adam Jones – fe ddeliodd yn dda â Domingo, sy’n sgrymiwr da, ac roedd ei amddiffyn yn y sgarmes rydd yn dda iawn. (6)

Bradley Davies – arbennig o dan yr amgylchiadau. Y gweithiwr dygn sydd ei angen ar Gymru yn absenoldeb y ddau Ian, Gough ac Evans. (8)

Deiniol Jones/Luke Charteris – anodd rhoi sgôr i Deiniol Jones ond fe wnaeth Charteris yn dda yn clirio ac yn cario. (6)

Jonathan Thomas – ble oedd e yn y sgarmes? Damnïol iddo fe hefyd mai fe yw capten y llinell. (3)

Ryan Jones – yn dal i wneud y pethau sylfaenol yn dda, ond dim byd eithriadol fel Harinordoquy. (5)

Martyn Williams – digon o ymdrech, dim llawer o lwyddiant. Trueni. (5)

Adroddiad llawn Cymru v Ffrainc