Mae rhybuddion llifogydd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer rhannau helaeth o Loegr heddiw – gan gynnwys rhybudd llifogydd difrifol mewn rhannau o Swydd Gaergrawnt.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhybuddio trigolion ardal Bury Brook yn Swydd Gaergrawnt i fod ar eu gwyliadwriaeth am lifogydd a allai beryglu bywyd ac eiddo. Er nad ydyn nhw’n cael eu gorchymyn i adael eu tai, maen nhw’n cael eu cynghori i symud pethau gwerthfawr i fyny’r grisiau.

Yr unig ran o Loegr heb rybuddion llifogydd heddiw yw rhanbarth gogledd-orllewinol y wlad.

Cafodd morglawdd afon Tafwys ei godi y bore yma er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd i’r gorllewin o Lundain.

Daw’r rhybuddion ar ôl dyddiau lawer o law trwm mewn llawer rhan o Brydain, ac wrth i storm fawr daro Ffrainc gan ladd o leiaf 12 o bobl.

Un rhybudd yn unig sydd yng Nghymru ar hyn o bryd – rhybudd gwylio llifogydd (sef y rhybudd lleiaf difrifol) ar gyfer arfordir ardal Aberteifi a Llandudoch sy’n dal mewn grym ers neithiwr.

Gaeaf oeraf

Cafwyd cadarnhad heddiw mai’r tri mis diwethaf yw’r gaeaf oeraf ers 1978-79, a’r mis Chwefror oeraf ers 1996.

Yn ogystal, mae tua 20% yn uwch na’r cyfartaledd.o law wedi disgyn yng Nghymru a Lloegr dros y mis diwethaf.

Llun: Môr tymhestlog yn Scarborough, Swydd Efrog y bore yma (John Giles/Gwifren PA)