Bydd y Blaid Lafur yn ymladd yr etholiad cyffredinol yn benderfynol o “achub Cymru rhag trychineb llywodraeth Geidwadol”, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain.
Wrth annerch cynhadledd Plaid Lafur Cymru yn Abertawe heddiw, dywedodd Peter Hain y byddai’r math o doriadau a fyddai’n cael eu gorfodi gan y Torïaid yn peryglu pob math o brosiectau cymunedol yng Nghymru – ac yn debyg o olygu diwedd ar bresgripsiynau am ddim.
Gan wfftio at honiad David Cameron ei fod yn cynnig newid i’r etholwyr, dirmygodd Peter Hain y Torïaid fel etifeddion traddodiad a wrthwynebodd y Siartwyr, datganoli a’r isafswm cyflog.
Ailadroddodd Ysgrifennydd Cymru ei apêl ar i gefnogwyr y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru a’r Gwyrddion gefnogi Llafur er mwyn rhwystro llywodraeth Dorïaidd.
“Pan ddaw hi’n ddiwrnod yr etholiad, dw i’n gobeithio y bydd pleidleiswyr yn rhoi eu hamheuon am ein llywodraeth o’r neilltu, a gofyn cwestiwn llawer mwy sylfaenol: ydyn nhw o ddifrif yn ymddiried yn y Torïaid?”
Honnodd fod Plaid Lafur Cymru wedi “dysgu a gwrando ar y bobl” ar ôl cyfres o ganlyniadau gwael mewn etholiadau, gan gynnwys etholiad Ewrop y llynedd pryd y cafodd ei threchu gan y Torïaid ledled Cymru am y tro cyntaf ers 1918.
Roedd yn annerch cynhadleddwyr a oedd wedi cael eu calonogi’n fawr gan y pôl piniwn diweddaraf sy’n dangos Llafur o fewn dau bwynt canran i’r Torïaid. Cyn iddo ddechrau ar ei araith, bu cymeradwyaeth fyddarol wrth i gopi heddiw o’r Sunday Times gael ei chwifio ar y llwyfan, gyda’r pennawd “Brown on course to win election”.