Mae o leiaf 51 o bobl wedi cael eu lladd ar ôl i law trwm a chorwyntoedd chwipio trwy orllewin Ewrop heddiw.

Ffrainc yw’r wlad sydd wedi dioddef waethaf o bell ffordd, lle mae 45 wedi cael eu lladd, naill ai trwy foddi neu gael eu taro gan ddarnau o adeiladau neu goed yn cael eu chwythu gan y gwynt.

Y storm, sydd wedi ei henwi yn Xynthia, yw’r waethaf yn Ffrainc ers 1999 pryd y cafodd 90 eu lladd.

Mae’r Prif Weinidog, Francois Fillon, a alwodd gyfarfod brys o’r cabinet, wedi disgrifio’r storm fel ‘trychineb cenedlaethol’.

Mae afonydd wedi gorlifo eu glannau yn Llydaw, ac mae perygl o lithriadau eira ym mynyddoedd y Pyrenees, a brofodd wyntoedd o dros 130 milltir yr awr. Mae bron i filiwn o bobl trwy’r wlad wedi bod heb drydan.

Mae llanw uchel a thonnau mawr wedi creu taro arfordir gorllewinol Ffrainc, a thorrodd morgloddiau tref L’Aguillon, lle cyrhaeddodd dŵr y môr doeau rhai tai. Bu hofrenyddion yn codi pobl i ddiogelwch trwy’r dydd.

Cafodd beiciau modur eu chwythu drosodd ym Mharis ac roedd sbwriel yn chwyrlïo yn y gwynt ar hyd strydoedd y ddinas. Cafodd o leiaf 100 o deithiau awyren eu canslo o ddau brif faes awyr Paris a chafodd amryw o wasanaethau trên yng ngorllewin Ffrainc eu drysu gan lifogydd.

Mae’r Arlywydd Nicolas Sarkozy yn bwriadu ymweld â’r ardaloedd sydd wedi cael eu taro waethaf yfory.

Cafodd tri o bobl eu lladd yn gynharach gan y corwyntoedd yng ngogledd Sbaen hefyd a bu farw plentyn ym Mhortiwgal ar ôl cael ei daro gan goeden yn syrthio.

Wrth i’r storm symud tua’r dwyrain, cyrhaeddodd wlad Belg a’r Almaen y prynhawn yma, a chafodd o leiaf un person ei ladd pan syrthiodd coeden ar ei gar yn ardal y Fforest Ddu.

Llun: Gweddillion car a gafodd ei daro gan goeden yn syrthio yn Arlanzon, i’r gogledd o Madrid – bu farw’r ddau a oedd yn teithio ynddo (AP Photo/I Lopez).