Mae gwledydd o amgylch y Môr Tawel wedi cael y newydd da nad ydyn nhw bellach yn wynebu perygl o tsunami difrifol.
Wedi’r daeargryn anferth yn Chile ddoe, pryd y cafodd o leiaf 300 o bobl eu lladd, roedd rhybuddion o’r posiblrwydd o tsunami wedi eu cyhoeddi mewn 53 o wledydd
Erbyn hyn, ar ôl tonnau llawer llai na’r hyn a ofnwyd mewn gwledydd yn cynnwys Awstralia, Japan a Rwsia, mae’r rhybuddion hynny wedi cael eu dileu.
Er bod cannoedd o filoedd o bobl wedi cael eu gorfodi i symud i dir uwch o’r arfordir yn Japan, doedd y tonnau ddim cymaint â’r disgwyl. Roedd y tonnau mwyaf tua 1.2 metr, o gymharu â’r 3 metr a ofnwyd.
Wrth iddo groesi’r Môr Tawel, prin fu effaith y tsunami ar ardaloedd poblog.
Er i drigolion gael eu hanfon i dir uwch yn Hawaii, lle mae’r canolfan rybuddio tsunami ar gyfer y Môr Tawel, aeth y tsunami heibio heb achosi unrhyw ddifrod, ac roedd pobl yn ôl ar y traethau erbyn y prynhawn.
(Gweler y stori isod ‘Chile – 300 wedi marw’ am hanes y daeargryn difrifol yn y wlad.)
Llun: Ymwelwyr ar Draeth Waikiki yn Hawaii ddoe, ar ôl i’r tsunami fynd heibio AP Photo/Eugene Tanner)