Gyda’r arolwg barn diweddaraf yn awgrymu y gallai Llafur ennill yr etholiad cyffredinol, cyfaddefodd arweinydd y Torïaid, David Cameron, fod ei blaid yn wynebu ‘brwydr fawr’.

Yn ei araith i gynhadledd wanwyn ei blaid yn Brighton y prynhawn yma, rhybuddiodd David Cameron y byddai’r etholiad yma’n un agos.

“Ro’n i bob amser yn credu y byddai gennym ni frwydr go-iawn a dyna’n union sydd gennym,” meddai.

Gan gyfaddef fod y ras yn ‘tynhau’, mynnodd fod ganddo amser o hyd i argyhoeddi’r cyhoedd.

“Mae gwleidyddiaeth bob amser yn her, dyna’r pwynt,” meddai. “Dw i’n meddwl bod pobl Prydain yn iawn yn gofyn inni brofi’n hunain iddyn nhw.”

Yn ôl yr arolwg barn yn y Sunday Times heddiw, mae gogwydd sylweddol wedi bod o’r Torïaid i Lafur dros yr wythnos ddiwethaf. Mae’n dangos y Torïaid ar 37% – dau bwynt i lawr o gymharu ag wythnos yn ôl – a Llafur ar 35%, sydd ddau bwynt i fyny. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn aros yn eu hunfan ar 17%.

Dyma’r lleiaf y mae’r Torïaid wedi bod ar y blaen ers dwy flynedd, ac mae’n newyddion llawer gwaeth iddyn nhw na’r hyn y mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf. Oherwydd dosbarthiad pleidleisiau ac etholaethau ledled Prydain, barn arbenigwyr gwleidyddol yw y byddai Llafur yn debyg o ennill yr etholiad hyd yn oed pe bai’r Torïaid ychydig ar y blaen.

Anesmwythyd

Y tu ôl i eiriau David Cameron daw adroddiadau am anesmwythyd cynyddol ymysg aelodau cyffredin ei blaid ar ei fethiant i ‘selio’r fargen’ gyda’r etholwyr – a hynny er gwaetha’r ffaith fod Prydain yn dioddef y dirwasgiad gwaethaf ers 60 mlynedd a brwydro mewnol o fewn y Blaid Lafur.

Mae’r arolwg barn, sy’n seiliedig ar 1,436 o bobl ledled Prydain a gafodd eu holi gan YouGov ddydd Iau a dydd Gwener, yn awgrymu nad yw’r honiadau o fwlio wedi gwneud unrhyw ddrwg i’r Prif Weinidog Gordon Brown.

Dim ond 28% o’r rhai a holwyd a oedd yn credu ei fod yn fwli, a chytunai 50% fod ganddo ‘synnwyr cryf o’r hyn sy’n iawn a’r hyn sydd ddim’.

Mae hefyd dystiolaeth o amheuon ynghylch cefndir breintiedig David Cameron, gyda 25% yn unig yn credu ei fod yn deall problemau ‘pobl fel ni’. Mae hyn yn sylweddol is na’r 35% sy’n credu hynny am Gordon Brown.

Llun: David Cameron yn rhedeg ar hyd promenâd Brighton y bore yma (Stefan Rousseau/PA Wire)