Fe fydd arweinydd y Ceidwadwyr yn dweud ei bod hi’n “ddyletswydd wladgarol” i gael gwared ar Gordon Brown o Downing Street.

Wrth i’r polau piniwn awgrymu bod y bwlch rhwng y ddwy blaid fawr yn cau eto, fe fydd araith David Cameron yng nghynhadledd ei blaid heddiw yn un dyngedfennol.

Y disgwyl yw y bydd yn siarad heb nodyn, fel y gwnaeth mewn perfformiad cofiadwy i gipio arweinyddiaeth ei blaid.

Y bwlch yn cau

Ond, mae’r mis mêl heibio bellach a’r arolwg barn diweddara’ gan YouGov yn y Sunday Times yn awgrymu mai dim ond dau bwynt yw’r bwlch rhwng y Ceidwadwyr a Llafur – o’i gymharu â chymaint ag 20 pwynt ar adegau yn ystod y blynyddoedd diwetha’.

Yn gyffredinol, mae’r polau’n awgrymu bod y Ceidwadwyr tua chwe phwynt ar y blaen – fe fyddai hynny’n arwain at senedd grog. Fe fyddai bwlch o ddau bwynt yn golygu mai Llafur fyddai’r blaid fwya’ o ddigon.

Dyna sydd wedi gwneud i rai awgrymu y gallai Gordon Brown alw etholiad ar 25 Mawrth ond, yn ôl sylwebwyr, fe fyddai hynny’n golygu cyhoeddiad fory a dim ond diwrnod i geisio clirio’r mesurau sydd ar ôl i’w pasio.

‘Clirio llanast’

Bwriad cynhadledd y Torïaid yn Brighton yw ail-danio’r blaid wrth i Etholiad Cyffredinol nesáu. Maen nhw wedi crynhoi eu polisïau i chwe phwynt canolog a phob un yn awgrymu ‘newid’.

Fe fydd David Cameron yn gofyn am gefnogaeth i dynnu gwledydd Prydain “allan o’r llanast llwyr y mae Llafur wedi ei greu”.