Mae ymdrech yn parhau i greu Academi Heddwch yng Nghymru.
Y nod yw cael cefnogaeth y Cynulliad i sefydlu’r corff newydd a fyddai’n ymchwilio i faterion heddwch a thrais ac yn cynghori’r Llywodraeth.
Yn ystod yr wythnos, fe fu Llywydd sefydliad tebyg yn Fflandrys draw yng Nghymru’n egluro rhagor am y syniad wrth Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad.
Mae pedwar mudiad – CND Cymru, Canolfan Gymreig Materion Rhyngwladol, Cymdeithas y Cymod a Chynefin y Werin – wedi cyflwyno deiseb yn gofyn am gefnogaeth. Fe gafodd hwnnw ei arwyddo gan 1525 o bobol.
‘Cyfle euraid’
Yn ôl Nelly Maes, fe all Academi Heddwch hybu cymdeithas heddychlon o fewn a thu allan i’r wlad ac mae gan Gymru “gyfle euraid” i sefydlu corff o’r fath, gan gyfrannu tuag at heddwch byd eang.
Yn ogystal ag ateb cwestiynau pedwar aelod y Pwyllgor Deisebau, fe fu Nelly Maes yn
annerch cyfarfodydd yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Aberystwyth a Bangor ac yn ymweld â chartre’r bardd Hedd Wyn, a gafodd ei ladd yn Fflandrys adeg y Rhyfel Cyntaf.
“R’yn ni’n gobeithio cael ymrwymiad gan bob plaid i gefnogi’r syniad cyn etholiadau’r Cynulliad yn 2011,” meddai Jill Evans, Cadeirydd CND Cymru ac Aelod o Senedd Ewrop tros Blaid Cymru.
Roedd hi’n pwysleisio y byddai Academi yn gwneud llawer mwy nag ystyried heddwch byd-eang – roedd sefydliadau tebyg mewn gwledydd eraill yn gwneud ymchwil i drais o fewn y gymdeithas hefyd, meddai.
Bwrdd annibynnol
Fe fyddai angen bwrdd annibynnol i sicrhau safon yr ymchwil – yn Fflandrys, mae hwnnw’n cynnwys cynrychiolwyr o’r pleidiau gwleidyddol, o brifysgolion ac undebau ac o’r diwydiant arfau yn ogystal â’r mudiad heddwch.
Mae llywodraethau gwledydd eraill, fel Catalunya, hefyd yn cefnogi sefydliadau tebyg a gobaith y deisebwyr yw cael cymorth Llywodraeth y Cynulliad i greu’r Academi yng Nghymru.
“Mae’r Pwyllgor wedi gofyn am ragor o dystiolaeth,” meddai Jill Evans. “Ac fe fydd gweithgor yn cael ei sefydlu i drafod y model gorau i Gymru.”
Llun: Nelly Maes