Mae pôl piniwn newydd yn yr Alban yn awgrymu bod Alex Salmond a’r SNP yn colli cefnogaeth.

Os yw’r ffigurau’n agos ati, fe fydd Llafur yn eu chwalu yn yr Etholiad Cyffredinol ac yn cipio grym oddi arnyn nhw yn Senedd yr Alban hefyd.

Ond mae arweinwyr yr SNP wedi taro’n ôl, gan ddweud bod y blaid wedi dod trwy gyfnod anodd a bod y ffigurau manwl yn dangos ei bod wedi ennill tir yn ôl yn ystod y dyddiau diwetha’.

Salmond yn diodde’ hefyd

Yn ôl arolwg YouGov ym mhapur newydd Scotland on Sunday, mae Llafur 17 pwynt ar y blaen i’r SNP yn yr Etholiad Cyffredinol a phum pwynt ar y blaen ar gyfer Senedd yr Alban.

Yn ôl y ffigurau, mae cefnogaeth y blaid genedlaethol ar lefel Holyrood wedi syrthio o dan 30 pwynt am y tro cynta’ ers iddi ddod i rym yno dair blynedd yn ôl.

Mae poblogrwydd yr arweinydd, Alex Salmond, hefyd wedi cwympo gyda 36 yn meddwl ei fod yn gwneud gwaith da, a 38 yn dweud fel arall.

O’i gymharu, mae Prif Weinidog Prydain, Gordon Brown, yn cael sgôr positif o 43-35.

Pythefnos caled

Fe gafodd yr SNP bythefnos digon caled, gyda chyhuddiadau yn erbyn ymddygiad y dirprwy arweinydd, Nicola Sturgeon, a’r blaid yn gorfod torri dau addewid pwysig.

Ond, yn ôl yr arweinydd yn San Steffan, Angus Robertson, mae’r rhod wedi troi erbyn hyn, yn enwedig ar ôl i’r SNP gyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer refferendwm ar annibyniaeth.

“R’yn ni wedi llwyddo i atal y pwyntiau negyddol,” meddai wrth y papur newydd. “R’yn ni wedi ail afael yn yr awenau trwy gyhoeddi Mesur Drafft ar gyfer Refferendwm ac r’yn ni ar y droed flaen wrth i’r Etholiad Cyffredinol ddynesu.”

Llun: Alex Salmond