Mae heddlu o Lundain ar eu ffordd i Israel i holi ynghylch defnydd o basports ffug mewn llofruddiaeth yn Dubai.

Swyddogion o wasanaeth cudd Israel, Mossad, sy’n cael eu hamau o fod wedi lladd un o arweinwyr y mudiad Palesteinaidd, Hamas, gan ddefnyddio pasports oedd wedi eu dwyn a’u haddasu.

Mae chwech o’r rheiny wedi eu holrhain at ddinasyddion Prydeinig sy’n byw yn Israel – dydyn nhw ddim yn cael eu drwgdybio o ddim eu hunain, ond fe fyddan nhw’n cael eu holi gan y swyddogion o adain droseddau difrifol yr heddlu.

Mossad

Dyw Israel ddim wedi cadarnhau na gwadu mai swyddogion Mossad oedd yn gyfrifol ond mae heddlu yn Dubai yn yr Emiradau Arabaidd yn dweud eu bod bron yn gwbl sicr mai nhw oedd wedi llofruddio Mahmoud al-Mabhou.

Fe ddigwyddodd hynny mewn gwesty ac fe gafodd rhai o’r llofruddion eu gweld ar luniau teledu cylch cyfyng yn dilyn al-Mabhou i mewn i’r adeilad.

Yn ôl Israel, does ganddyn nhw ddim problem gydag ymweliad y plismyn o wledydd Prydain.

Mae’r achos yn gwneud drwg i enw da Israel yn rhyngwladol, gan fod pasports o wledydd eraill – gan gynnwys Awstralia, Ffrainc, yr Almaen ac Iwerddon – hefyd wedi eu defnyddio yn y cyrch.

Llun: Llun Interpol o rai o’r bobol sy’n cael eu hamau o’r llofruddiaeth yn Dubai