Fe gafodd cefnogwyr Stoke City eu cyhuddo o wawdio’r Cymro ifanc, Aaron Ramsey, wrth iddo gael ei gario o’r cae gydag anaf difrifol.

Yn ôl cefnogwyr ei dîm ef, Arsenal, roedd cefnogwyr Stoke wedi canu pethau fel “He’s only got one leg” ar ôl i’r chwaraewr 19 oed dorri ei goes mewn dau fan.

Fe gafodd cefnwr Stoke, Ryan Shawcross, ei anfon o’r cae ar ôl tacl ddychrynllyd ar Ramsey – fe gafodd y gêm ei hatal am sawl munud wrth i weithwyr meddygol geisio diogelu’r goes cyn cario Ramsey i’r ochr.

Yn ddiweddarach, roedd mwy nag un o gefnogwyr Arsenal wedi ffonio rhaglen radio 606 i gwyno am ymddygiad “ffiaidd” rhai o’r dyrfa yn Stoke.

Targedu

Y disgwyl yw y bydd Aaron Ramsey’n cael sgan llawn heddiw – yn ôl y dystiolaeth feddygol gynta’, mae wedi torri dau o’r prif esgyrn – y tibia a’r fibula – yn rhan isaf ei goes.

Y disgwyl yw y bydd allan o’r gêm am rai misoedd ac fe fydd pryder y gallai anaf mor ddifrifol effeithio ar ei yrfa.

Yn union wedyn fe alwodd rheolwr Arsenal, Arsene Wenger, am gosbau llymach na gwaharddiad o dair gêm am droseddau fel un Shawcross.

Mae wedi cwyno eto bod Arsenal yn cael eu targedu gan dimau eraill – fe gafodd chwaraewr ifanc arall, Eduardo, anaf lawn mor ddifrifol mewn tacl debyg union ddwy flynedd yn ôl.

‘Dim malais’

Er hynny roedd Shawcross a’i reolwr yn gwadu bod unrhyw fwriad drwg y tu cefn i’r dacl neithiwr. Fe gyhoeddodd y chwaraewr ddatganiad yn dweud nad oedd unrhyw falais a’i fod yn meddwl am Aaron Ramsey’n awr.

Yn ôl Tony Pulis, y Cymro sy’n rheoli Stoke, doedd yna ddim mymryn o “waed drwg” yn Shawcross.

O fewn tuag awr i’r digwyddiad, fe ddaeth y cyhoeddiad bod Shawcross wedi cael ei ddewis am y tro cynta’ i sgwad rhyngwladol Lloegr.

Llun: Atsene Wenger – cyhuddo clybiau eraill o dargedu Arsenal