Mae nifer y marwolaethau yn Chile bellach wedi codi tros 300 ond, yn ôl llywodraeth y wlad, mae’r daeargryn anferth ddoe wedi effeithio ar tua 2 filiwn o bobol.

Fe gafodd ffyrdd a phontydd eu chwalu yng nghanolbarth y wlad a does dim newyddion eto am lawer o’r trefi a’r pentrefi llai.

Hyd yn oed yn y brifddinas Santiago, tua 200 milltir o ganol y daeargryn, mae llawer o bobol heb drydan ac roedd miloedd yn cysgu allan yn y strydoedd neithiwr rhag ofn rhagor o ysgytwadau.

Fe drawodd y daeargryn o fewn 70 milltir i ail ddinas fwya’r wlad, Concepcion, ac mae lluniau oddi yno’n dangos adeiladau wedi chwalu’n llwyr a cherbydau wedi eu gwasgu pob siâp.

Fe ddihangodd tua 200 o ddynion o garchar ar ôl i hwnnw fynd ar dân ac fe gafodd rhai o brif ganolfannau trafnidiaeth a diwydiant y wlad eu cau, gan gynnwys y maes awyr, y prif borthladd yn Valparaiso a dau o’r pyllau copr mwya’.

Tsunami

Er bod rhybudd am tsunami yn parhau tros rannau helaeth o’r Môr Tawel – yn enwedig yn Japan – dyw’r tonnau hyd yn hyn ddim wedi achosi difrod mawr iawn.

Roedd y gwaetha’ yn ynysoedd Juan Fernandez – ynysoedd Robinson Crusoe – lle cafodd tua phump o bobol eu lladd a llawer o adeiladau eu chwalu.

Yn Chile ei hun, mae’r Asiantaeth Argyfwng yn dweud bod tua 500,000 o adeiladau wedi cael difrod ac fe rybuddiodd y pennaeth, Carmen Fernandez, y byddai nifer y meirw yn sicr o gynyddu.

Mae’r daeargryn yn un o’r rhai cryfa’ i’w cofnodi erioed gan gyrraedd 8.8 ar raddfa Richter. Roedd rhai o’r ysgytwadau a ddilynodd bron yr un mor ffyrnig.

Yn nhref Talca, o fewn 65 milltir i ganol y daeargryn, roedd pobol yn disgrifio’r teimlad fel bod ar awyren ynghanol terfysg mawr.

Cymorth

Hyd yn hyn dyw’r wlad ddim wedi gofyn am gymorth rhyngwladol ond mae’r Arlywydd Barack Obama wedi gwneud yn glir bod yr Unol Daleithiau yn barod i helpu.

Yn Abertawe ddoe, fe ddywedodd y Prif Weinidog Gordon Brown y byddai gwledydd Prydain hefyd yn gwneud yr hyn allen nhw.

Mae mudiadau gwirfoddol eisoes yn anfon gweithwyr i’r wlad.

Llun: Gweithwyr achub yn tynnu person o ganol y rwbel (AP Photo)