Fe drodd y Prif Weinidog slogan newydd y Ceidwadwyr ar ei ben wrth annerch y ffyddloniaid Llafur yn Abertawe.

Wrth i’r Ceidwadwyr gyhoeddi heddiw mai “Pleidleisiwch er mwyn Newid” fyddai eu slogan yn yr Etholiad Cyffredinol, fe ymosododd Gordon Brown ar hynny.

“Fe fyddan nhw’n gwneud y newidiadau anghywir, ar yr amser anghywir, am y rhesymau anghywir ac er lles y bobol anghywir,” meddai yng nghynhadledd wanwyn Plaid Lafur Cymru.

Yn araith fawr y dydd, fe fu’n amddiffyn penderfyniadau’r Llywodraeth adeg yr argyfwng economaidd gan ddweud bod y Ceidwadwyr wedi eu gwrthwynebu bob gafael.

Fe ddyfeisiodd yntau slogan newydd i adleisio dywediad enwog ei ragflaenydd Tony Blair am “addysg, addysg, addysg” – y flaenoriaeth, meddai Gordon Brown, fydd “swyddi, swyddi, swyddi”.

Y lleol yn Llanelli

Ynghynt yn y dydd, roedd yna gip hefyd ar arddull ymgyrchu’r Prif Weinidog yn yr Etholiad.

Fe fu’n cwrdd â phobol leol yn Dafen yn ardal Llanelli, trwy alw pawb ynghyd i gartref cynghorydd cymuned lleol.

Roedd y gwahoddedigion yn cynnwys gweithwyr elusen, gweinidog Methodist a doctor, yn ogystal â’r Aelod Seneddol lleol, Nia Griffiths.

Llanelli fydd un o’r seddi allweddol i Lafur yng Nghymru – os byddan nhw’n cadw seddi felly, fe fydd ganddyn nhw obaith o ddal gafael ar rym.

Llun: Steil etholiad – Gordon Brown yn cyfarfod pobol leol yn Llanelli (Gwifren PA)