Fe fydd Swyddfa’r Post yn lansio set newydd o stampiau cyfarch ddydd Llun er mwyn dathlu Gŵyl Ddewi.

Mae’r cyfanswm o ddeg o stampiau’n dangos lluniau o rai o gestyll enwoca’ Cymru – yr ola’ mewn cyfres o bedwar cyhoeddiad am gestyll trwy’r Deyrnas Unedig.

Mae’r cwmni wedi bod yn wleidyddol ddoeth wrth ddewis, gyda chymysgedd o gestyll y tywysogion Cymreig a rhai’r Normaniaid.

Stampiau cyfarch yw’r rhain – setiau arbennig sy’n cael eu cyhoeddi at achlysuron arbennig a’u rhoi yn rhoddion. ‘Smiler’ yw’r term technegol.

Mae’n bosib prynu’r deg stamp gyda’i gilydd ar un ddalen ac maen nhw’n dilyn set arall ‘Dathlu Cymru’ a gyhoeddwyd y llynedd.

Fe fydd copi o’r ddau set o stampiau yn cael eu cyflwyno ddydd Llun i Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain.

“Fel cenedl, rydym wedi ein bendithio gyda threftadaeth a diwylliant cyfoethog ac mae’r rheiny’n cael eu dal yn y stampiau gwych hyn,” meddai.

Dyma’r cestyll: Biwmares, Caernarfon, Carreg Cennen, Cas-gwent, Conwy, Cricieth, Dinefwr, Dolbadarn, Dolwyddelan a Harlech.

Llun: Dau o’r stampiau – Dinefwr a Dolwyddelan