Dyw’r Ceidwadwyr ddim wedi bod yn “rhy ofnus”, meddai eu harweinydd, David Cameron, wrth iddyn nhw agor eu cynhadledd wanwyn yn Brighton.
“Mae’r Blaid Geidwadol yn blaid radical a mentrus ac fe fydd hi’n parhau i fod felly,” meddai mewn neges fideo ar ei flog.
Mae’r gynhadledd yn cael ei hystyried yn un allweddol wrth i David Cameron geisio codi stêm eto ar ôl gweld Llafur yn dod yn nes a nes yn y polau piniwn.
Ar un adeg, roedd y Ceidwadwyr gymaint ag 20 pwynt ar y blaen; bellach, mae’r rhan fwya’ o arolygon yn awgrymu rhwng 5 a 10 pwynt.
Fe gyhoeddwyd heddiw mai “Pleidleisiwch tros Newid” fydd slogan y blaid ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol sy’n sicr o ddigwydd o fewn y tri mis a hanner nesa’.
Ac mae polisïau’r blaid wedi cael eu crynhoi i chwe phwynt, sy’n troi o amgylch y syniad o newid.
Newid
Amser cinio, ddywedodd y llefarydd gwaith a phensiynau, Theresa May, y byddai’r Ceidwadwyr yn newid yr economi o fod yn un sy’n dibynnu ar ddyled i un sydd wedi ei greu o amgylch buddsoddi.
Fe fyddai newid mewn ysgolion hefyd, meddai, er mwyn cynnig rhagor o lefydd da i blant.
Mewn erthygl ym mhapur newydd y Times y bore yma, fe ddywedodd y llefarydd ar y Trysorlys, George Osborne, fod y blaid wedi rhoi amser rhy hawdd i Lafur.
Y Ceidwadwyr oedd wedi bod yn cyhoeddi polisïau, meddai, gan roi’r cyfle i Lafur ymosod, heb i’r pwysau gael ei droi’n ôl arnyn nhw.