Fe fydd y Ceidwadwyr yn gwario mwy na Llafur, ond fyddan nhw ddim yn perfformio’n well, meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Lafur Brydeinig.
Ac fe ddywedodd Ray Collins wrth gynhadledd y blaid Gymreig yn Abertawe bod yna naw sedd yng Nghymru sy’n gwbl allweddol.
Os bydd y blaid yn cadw’r rheiny – o blith y 29 sydd gan Lafur yng Nghymru – fe fydd gwledydd Prydain i gyd yn aros gyda Llafur, meddai.
Y rheiny yw’r seddi mwya’ ymylol yng Nghymru, yn benna’ hyd arfordir y de a’r gogledd.
“Dw i’n gwybod eich bod yn atebol o gwrdd â’r sialens,” meddai Ray Collins wrth y cynrychiolwyr. “Dw i’n gwybod y byddwn ni’n gwario llai na’r Ceidwadwyr, ond fyddwn ni ddim yn cyflawni llai.
“Fe fydd y cyfryngau yn ein herbyn hefyd ac mae’n rhaid i ni fod yn glyfar gyda’n gwario.”
Y rhoddion – y ffigurau
Mae ffigurau diweddar gan y Comisiwn Etholiadol yn dangos bod y Ceidwadwyr wedi bod yn crynhoi arian ddwywaith yn gyflymach na Llafur.
Yn ystod chwarter ola’ 2009, fe dderbyniodd y Ceidwadwyr dros £10.5 miliwn tra bod Llafur yn ôl ar lai na £5 miliwn. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael mwy na miliwn.
Cyfanswm y rhoddion i Blaid Cymru yn yr un cyfnod oedd ychydig tros £11,600.