Fe fydd Ferrie Bodde yn ôl yng nghanol y cae i Abertawe heddiw.
Mae’r rheolwr Paulo Sousa wedi cadarnhau y bydd y chwaraewr o’r Iseldiroedd yn dechrau am y tro cynta’ ers misoedd.
Dyma’r ail dro iddo ddod yn ôl ar ôl anaf tymor hir ac mae’n ennill ei le yn gynt na’r disgwyl.
Fe fydd yng nghanol y cae gyda Leon Britton a Darren Pratley wrth i’r Elyrch geisio cryfhau eu lle yn safleoedd y gemau ail gyfle.
Gyda chwaraewyr canol cae eraill fel Joe Allen wedi eu hanafu, roedd yna ddyfalu y byddai Sousa’n cynnwys y chwaraewr sydd wedi cael cap dan 23 i’r Iseldiroedd.
Flwyddyn a hanner yn ôl, cyn ei anaf difrifol cynta’, roedd sôn bod gan dimau Uwch-Gynghrair ddiddordeb ynddo.