Fe wrthododd y chwaraewr pêl-droed, Wayne Bridge, ag ysgwyd llaw ei hen ffrind, John Terry, cyn dechrau’r gêm rhwng timau’r ddau, Manchester City a Chelsea.
Er bod Bridge wedi ysgwyd llaw pob un o chwaraewyr eraill Chelsea ac er bod Terry wedi estyn ei law, cerdded heibio a wnaeth cefnwr Man City.
Mae eisoes wedi dweud nad yw’n gallu chwarae yn nhîm Lloegr gyda Terry, sydd wedi cyfadde’ iddo gael perthynas rywiol gyda chyn-gariad Bridge, a mam ei blentyn.
Mae Terry, sy’n briod gyda thri o blant, wedi colli capteniaeth Lloegr oherwydd y sgandal – roedd wedi beichiogi ei wraig a’i gariad tua’r un pryd.
Roedd Terry a Bridge yn arfer bod yn ffrindiau penna’ pan oedd y ddau yn chwarae gyda’i gilydd yn Chelsea ac roedd y ddwy fenyw hefyd yn ffrindiau a chymdogion.
Roedd yna gymaint o ddiddordeb yn y digwyddiad – ysgwyd llaw neu beidio – fel bod teledu Sky wedi dangos hynny yn hytrach na’u hysbysebion arferol.
Llun: Y dyddiau da – John Terry a Wayne Bridge yn ymrafael pan oedden nhw’n ffrindiau (Gwifren PA)