Ar ôl bron i chwarter canrif, mae galar yn gyrru artist ffuglen wyddonol a ffantasi byd enwog yn ôl ardal y Bala.
“Mae’n anodd aros yma,” meddai Rodney Matthews wedi iddo golli ei wraig, Karin, ar ôl brwydr deng mlynedd yn erbyn canser.
Roedd y ddau wedi dod i Gymru fwy nag 20 mlynedd yn ôl i fwynhau “heddwch a thawelwch” y wlad ac i gael ysbrydoliaeth i’w waith, ond roedd hynny wedi ei chwalu bellach, meddai.
“Fe wnaethon ni symud yma a gweithio gyda’n gilydd. Dw i wedi fy ffeindio fy hun mewn gwagle ac efallai mai dyma pam y mae’n rhaid i mi adael. Oherwydd bod y rheswm dros fod yma yn y lle cyntaf wedi mynd…Fy ngwraig oedd calon y lle.”
Dyw e ddim wedi penderfynu a fydd yn mynd i America neu at ei ferch yng ngwlad yr haf, er bod ei hoffter o olygfeydd Cymru’n aros.
“Mae tirwedd Cymru mor arw, gwyllt a gorllewinol,” meddai. “Mae’r strwythurau creigiau a’r bywyd gwyllt ar garreg fy nrws. Dw i’n gallu gweld Llyn y Bala o’r tŷ.”
Arddangosfa Tolkien – “uchafbwynt”
Fe fydd yr artist enwog yn arddangos ei waith ym Machynlleth ddiwedd Mawrth, mewn arddangosfa gelf sy’n rhagflas o ŵyl fwy, ac yng Ngŵyl Festival of the Shire ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid rhwng Ebrill 13 a 15 2010.
“Mae cael fy nghysylltu gydag arddangosfa Tolkien yn dipyn o uchafbwynt – yn arbennig gan fod cysylltiad rhwng Cymru, yr iaith a’r dirwedd yn ei waith,” meddai.
“Dw i’n mwynhau cyfarfod pobol sy’n mwynhau Tolkien a ffantasi hefyd. I bobol sy’n dod o’r Unol Daleithiau a thramor – mae’n gyffrous iawn iddyn nhw ymweld â lle fel Cymru – lle rhamantaidd gyda chymaint o hanes.”
On a Story Teller’s Night – clawr i’r band Magnum
Realiti
Mae gwaith artistiaid fel ef yn mynd y tu hwnt i ddelwedd hipïaidd Geltaidd y 70au, meddai Rodney Matthews, sy’n cofio dechrau’n blentyn trwy dynnu lluniau o gymeriadau Walt Disney ar ôl bod yn y sinema gyda’i chwaer a’i dad, a oedd hefyd yn ddarlunydd.
“Mae fy ffantasi i sy’n cael ei addurno gyda choed a phyllau dŵr yn seiliedig ar realiti,” meddai, gan egluro ei fod yn defnyddio’r elfennau real hyn fel “pwyntiau cyfeirio” i’w waith.
“Dw i hefyd yn hoff o’r elfennau ffantasi hynny sy’n denu pobol – llongau hwylio wedi’u cyfeirio tua’r gorwel. Dw i eisiau i bobl deimlo eu bod nhw’n gallu cerdded i mewn i’r gorwel.”
Mae Rodney Matthews wedi arddangos ei waith yn Llundain, Ewrop, Sierre, Swistir ac America. Hefyd, mae wedi cynllunio cloriau record i mwy na 70 o artistiaid gan gynnwys Thin Lizzy, Nazareth, Asia, The Scorpions, Barclay James Harvest, Magnum (10) a Rick Wakeman.
Yn ddiweddar fe werthodd ddarlun pensil o Alice in Wonderland i’r actor John Cleese, i ychwanegu at tua saith o ddarnau eraill o waith Rodney Matthews oedd ganddo eisoes.
Y lluniau o’r wefan – www.fodneymatthews.com – hawlfraint Rodney Matthews