Fydd cefnogwyr Llafur ddim yn gallu fforddio aros gartre’ yn yr Etholiad Cyffredinol nesa’, meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Roedd ganddo rybudd i gynhadledd wanwyn y blaid yng Nghymru – eu bod yn wynebu “brwydr fwya’ eu bywydau gwleidyddol”.
Roedd yn amlwg yn anelu at geisio atal problem ddiweddar Llafur – bod ei chefnogwyr ei hun yn cadw draw.
Fe ddefnyddiodd hen gyfarchiad traddodiadol y Blaid Lafur – comrades – wrth annerch y cynrychiolwyr am y tro cynta’ ers dod yn Brif Weinidog.
‘Rhaid pleidleisio’
Yn y gorffennol, meddai, roedd cefnogwyr yn “gallu cael Llywodraeth Lafur heb hyd yn oed orfod pleidleisio. Y tro yma, all cefnogwyr Llafur ddim fforddio hynny.
“Yn 2010, dim ond un ffordd sydd yna o aros yn Llafur – mynd allan a phleidleisio Llafur. Y tro yma, does neb yn mynd i wneud hynny ar eich rhan.”
Mae disgwyl i Brif Weinidog Prydain, Gordon Brown, annerch y gynhadledd heddiw.