Y diweddara’ – erbyn 1.30pm, roedd nifer y meirw yn 78

Fe gyhoeddodd Arlywydd Chile stad o drychineb mewn tri rhanbarth o’r wlad ar ôl un o’r daeargrynfeydd mwya’ i gael ei gofnodi erioed.

Fe ddywedodd Michelle Bachelet bod 16 o farwolaethau wedi’u cadarnhau eisoes ond bod disgwyl y bydd llawer mwy.

Fe gafodd rhybuddion tsunami eu rhoi ar hyd arfordir gorllewin De America a chyn belled ag Antarctica ac Awstralia ym mhen arall y Môr Tawel.

Ar hyn o bryd, does dim modd cysylltu gyda Concepcion, ail ddinas fwya’r wlad, oedd o fewn tua 70 milltir i’r daeargryn. Mae mwy na 200,000 o bobol yn byw yno.

Y pumed gwaetha’

Y daeargryn, a oedd wedi taro 8.8 ar Raddfa Richter, yw’r pumed gwaetha’ i gael ei gofnodi ac mae yn yr un ardal â’r un cryfa’ erioed a laddodd fwy nag 1,600 o bobol yn 1960.

Wrth adael canolfan ymateb brys yn y brifddinas, Santiago, fe ddywedodd yr Arlywydd bod systemau’r wlad yn dal i weithio.

“Dylai pobol aros yn dawel,” meddai. “R’yn ni’n gwneud popeth allwn ni gyda’r holl adnoddau sydd gyda ni. Fe fyddwn yn rhannu pob gwybodaeth ar unwaith.”

Fe ddywedodd y byddai’n ceisio teithio i lawr i ardal y daeargryn cyn gynted â phosib er mwyn asesu maint y difrod.

Cryndod tros gannoedd o filltiroedd

Roedd hen adeiladau ac o leia’ un bont wedi eu chwalu ym mhrifddinas Chile, Santiago, sydd tua 200 milltir o ganolbwynt y daeargryn ac roedd sôn am gryndod tua 1,500 o filltiroedd i ffwrdd.

Fe fyddai wedi cael ei deimlo hefyd yn ardal Gymraeg Patagonia sydd ychydig gannoedd o filltiroedd i’r de-ddwyrain. Roedd y daeargryn o fewn 50 milltir i ardal sgïo ym mynyddoedd yr Andes.

Roedd y daeargryn yn llawer mwy dwys na’r un a drawodd ynys Haiti ddechrau Ionawr – y gobaith yw y bydd systemau achub Chile’n gallu delio â’r argyfwng yn well, bod canol y daeargryn mewn ardal llai poblog a bod adeiladau modern wedi’u cynllunio i wrthsefyll daeargryn.

Llun: Michelle Bachelet  yn siarad gyda’r cyfryngau o’r ganolfan ymateb brys (AP Photo)