Mae’r prif undebau ym myd darlledu yn addo y byddan nhw’n ymladd toriadau tebygol yn y BBC.
Maen nhw’n dweud bod y Gorfforaeth yn gorfod ildio i’w chystadleuwyr ac i bwysau gwleidyddol.
Yn ôl undeb darlledu BECTU ac undeb y newyddiadurwyr, yr NUJ, maen nhw wedi cael cadarnhad bod adroddiadau papur newydd am y toriadau yn “gyffredinol gywir”.
Fe allai hynny olygu cael gwared ar ddwy orsaf radio – 6 a’r Asian Network – ynghyd â dwy wefan i bobol ifanc a chwarter staff ar-lein y Gorfforaeth.
Mae’r ddau undeb yn dweud bod y toriadau’n cael eu cynnig yn offrwm i elynion masnachol y Gorfforaeth ac i wleidyddion cyn yr Etholiad Cyffredinol.
Maen nhw hefyd yn feirniadol am fod staff wedi cael clywed am y cynlluniau trwy bapur newydd ond maen nhw wedi cael sicrwydd y bydd yna ymgynghori.
Murdoch
Mae cwmni Rupert Murdoch, News Corp, wedi bod yn ymosod ar y BBC gan ei chyhuddo o fod yn rhy fawr ac mae cwmnïau preifat yn y cyfryngau’n dweud bod y Gorfforaeth yn llesteirio eu busnesau nhw.
Fe gafodd Ysgrifenyddion Cyffredinol y ddau undeb gyfarfod gyda phennaeth adran Pobol y BBC ddoe gan ddweud ei bod hi wedi cadarnhau bod adroddiadau ym mhapur y Times yn agos iawn ati.
Fe fyddan nhw’n cael cyfarfod gyda Chyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson, ddydd Mercher ac fe fydd cyfarfod ar y cyd rhwng y BBC a’r undebau ymhen wyth diwrnod wedyn.
Mae’n bosib hefyd y bydd adain fasnachol y BBC, Worldwide, yn gorfod gwerthu ei chylchgronau, sy’n cynnwys y Radio Times.
Dyw hi ddim yn glir eto faint o bobol fydd yn colli eu swyddi, ond mae 1600 yn gweithio ar y gwasanaethau ar-lein.
Llun: Mynedfa Broadcasting House yn Llundain