Fe fydd cwestiynau’n cael eu codi eto am y berthynas rhwng y Prif Weinidog a’r Canghellor ar ôl i Gordon Brown fethu â gado y byddai’n cadw Alistair Darling yn y swydd pe bai’n ennill yr Etholiad Cyffredinol.

Ac yntau’n annerch y Blaid Lafur Gymreig heddiw, fe wrthododd Gordon Brown ateb y cwestiwn gan newyddiadurwyr y Daily Telegraph.

Fe ddywedodd na allai neb ddisgwyl iddo wneud cyhoeddiad o’r fath ond fe ddywedodd y bydden nhw’n “parhau i weithio gyda’n gilydd”.

“Mae Alistair Darling wedi bod yn ganghellor gwych,” meddai. “Rhaid i ni fynd trwy ymgyrch etholiad.”

Diwrnod allweddol

Fe fydd heddiw’n ddiwrnod allweddol wrth i’r ymgyrch etholiadol ddechrau o ddifri – yn ogystal â Gordon Brown yn Abertawe, fe fydd arweinydd y Ceidwadwyr yn annerch ei blaid yntau yn Brighton.

Y disgwyl yw y bydd David Cameron yn ceisio ail-adrodd y perfformiad a enillodd arweinyddiaeth y blaid iddo, gydag araith heb ddarn o bapur o’ i flaen.

“Pleidleisiwch tros newid” fydd slogan y Ceidwadwyr, sy’n adleisio sloganau’r Blaid Lafur cyn iddyn nhw ennill yn 1997.

Ond fe fydd Gordon Brown yn rhybuddio’r Blaid Lafur Gymreig y byddai’r Ceidwadwyr yn gwneud difrod mawr i Gymru.