Mae ofnau y bydd tsunami yn taro Chile a gwledydd cyfagos ar ôl daeargryn anferth yn ne’r wlad.

Mae Arlywydd Chile wedi bod yn cynnal cyfarfodydd brys er mwyn dechrau asesu maint y niwed.

Fe allai ton hefyd daro arfordir Peru i’r gogledd a dyw hi ddim yn glir eto faint o ddifrod y mae’r daeargryn ei hun wedi ei achosi.

Mae Canolfan Tsunami’r Môr Tawel wedi rhoi rhybudd difrifol i’r ddwy wlad a rhybudd llai i wledydd eraill fel Ecuador tua’r gogledd.

Fe ddaeth y daeargryn tua hanner awr wedi chwech y bore yn ein hamser ni – hanner awr wedi tri y bore yn amser Chile – ac roedd yn mesur 8.8 ar raddfa Richter.

Mae hynny’n llawer cryfach na’r daeargryn a drawodd Haiti ac yn gallu achosi difrod dychrynllyd.

Ardal dwristaidd

Fe ddigwyddodd bron 200 milltir i’r de o brifddinas Santiago ac o fewn 60 milltir i ail ddinas fwya’r wlad, Concepcion. Mae’n nes fyth at ardaloedd twristaidd yn yr Andes ble mae pobol yn mynd i sgïo.

Yn ôl adroddiadau lleol, roedd adeiladau wedi cael eu difrodi yn Santiago ac roedd cryndod wedi ei deimlo tros y ffin yn yr Ariannin – roedd ychydig gannoedd filltiroedd i’r gogledd orllewin o’r ardal Gymraeg ym Mhatagonia.

Mae negeseuon Trydar yn dweud bod adeiladau wedi crynu cymaint ag 1800 kilometr i ffwrdd.

Llun: Map o Chile yn dangos ardal y daeargryn (Map Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau)