Fe ddaeth asgellwr rygbi’r Alban o fewn milimitr i farw pan gafodd ei anafu yn erbyn Cymru bythefnos yn ôl.
Ac yntau bellach wedi cyrraedd yn ôl i Glasgow o Gaerdydd, mae meddyg tîm yr Alban yn dweud bod Thom Evans wedi dod o fewn dim i golli ei fywyd neu gael ei barlysu.
Fe gafodd un o esgyrn ei gefn ei daro o’i le mewn tacl yn erbyn dau o chwaraewyr Cymru a phe bai wedi symud milimitr arall, fe allai fod wedi torri’r madruddyn, neu linyn y cefn.
Byth eto, meddai ei frawd
Yn awr mae brawd yr asgellwr, Max, sydd hefyd yn chwaraewr rhyngwladol, yn dweud na ddylai Thom Evans chwarae fyth eto.
Fe ddywedodd wrth bapur y Scotsman bod y peryg yn ormod ond mai ei frawd a fyddai’n penderfynu yn y pen draw.
Yn ôl y papur, fe gafodd Thom Evans adael yr Ysbyty yng Nghaerdydd ddydd Iau ac mae bellach yn cael triniaeth yn ôl yn Glasgow.
Mae wedi bod yn hael ei ganmoliaeth i’r tîm meddygol yn yr ysbyty ac mae’r arbenigwyr yno wedi canmol y driniaeth a gafodd yr asgellwr ar y cae gan barafeddygon Stadiwm y Mileniwm.
Llun: Thom Evans (o wefan Glasgow Warriorws)