Fe fydd Prif Weinidog Cymru’n dweud mai cynnydd cyflym mewn busnesau preifat yw’r ateb i broblemau economaidd y wlad.
Yn ôl dyfyniadau sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw, dyna fydd neges fawr Carwyn Jones wrth annerch cynhadledd wanwyn Plaid Lafur Cymru yn Abertawe.
“Mae angen i ni gynyddu maint y sector preifat yng Nghymru a gwneud hynny’n gyflym er mwyn cynnig mwy o swyddi a swyddi gwell i’n pobol,” meddai.
“Mae angen meithrin ein gallu cynhenid i fentro a dyfeisio – agwedd ar Gymreictod sydd wedi cael ei mygu a’i dibrisio yn rhy hir.”
Brown am ddweud bod dewis clir
Fe fydd hefyd yn croesawu Prif Weinidog Prydain, Gordon Brown, i’r gynhadledd gyda sïon yn y gwynt y gallai gyhoeddi etholiad cynnar.
O ran hynny, fe fydd neges y ddau’n debyg – a neges Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, ddydd Sul. Fe fyddan nhw i gyd yn pwysleisio bod yna ddewis clir rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr.
Yn ôl Carwyn Jones, y dewis fydd rhwng Brown a’r tîm economaidd gorau yn y byd a’r Ceidwadwyr, sy’n “ddisgyblion dogmatig i’r egwyddorion a landiodd y byd mewn trafferth yn y lle cyntaf”.