Dyw pum mlynedd o garchar ddim yn agos at ddigon o gosb i ferch ifanc a laddodd ei chariad, meddai ei deulu ef.

Mewn gwirionedd, fe all Kath McGrath, 18 o Bracla ger Pen-y-bont ar Ogwr, fod allan o fewn dwy flynedd a hanner ar ôl ei chael yn euog o ddynladdiad Alyn Thomas.

Yn ôl datganiad gan ei rieni, Stephen a Lynne Thomas, doedd y ddedfryd ddim yn ddigon “am y dinistr llwyr yr oedd wedi ei achosi i’w teulu”.

“Fe fydd ein dedfryd ni’n parhau ymhell ar ôl iddi hi gael ei gollwng o’r carchar; fe fyddwn yn mynd â’n poen a’n colled gyda ni i’r bedd.”

Roedden nhw wedi dweud wrth y llys am y niwed – doedd y ddau ohonyn nhw ddim wedi gallu mynd yn ôl i’r gwaith ers y digwyddiad ym mis Awst ac roedd eu dau blentyn arall, Gareth a Cari, yn cael trafferth mawr i ymdopi.

Trywanu

Roedd Alyn Thomas, 22, o’r Cymer ger Castell Nedd wedi cael ei drywanu gan ei gariad yn oriau mân y bore ar ôl i’r ddau ohonyn nhw fod ar noson allan i ddathlu ei chanlyniadau Lefel ‘A’.

Fe ddywedodd y barnwr nad oedd neb ond hi yn gwybod beth yn union ddigwyddodd yng nghegin ei chartre’ y noson honno ond roedd yn derbyn nad oedd hi wedi bwriadu lladd y dyn ifanc.

Roedd Stephen Thomas hefyd yn beirniadu’r darlun o’i fab oedd wedi ei greu yn y llys. Doedd neb wedi cael cyfle i ateb honiadau ei fod yn ddyn ymosodol.

Roedd y negeseuon cydymdeimlad gan ei ffrindiau yn dangos ei fod yn fab yn wahanol iawn i hynny.