Fe ddywedodd hyfforddwr Cymru ei fod yn “falch ofnadwy” o berfformiad ei dîm yn yr ail hanner – wedi iddyn nhw ddod o fewn dim i atgyfodiad gwyrthiol arall.
Mae gwaith i’w wneud ar ambell i beth, meddai Warren Gatland, ond roedd y tim yn dangos llawer iawn o botensial.
Fe sgoriodd Cymru 20 pwynt yn erbyn 6 yn yr ail hanner, ond roedden nhw wedi gadael gormod i’w wneud wedi mynd i mewn ar yr hanner 20-0 ar ei hol hi.
Gydag ychydig o lwc a mwy o gywirdeb, meddai Warren Gatland, fe allai Cymru fod wedi ennill tair gêm o dair yn ystod y Bencampwriaeth.
Y broblem fawr, meddai wrth S4C, oedd bod Cymru wedi gadael gormod i’w wneud ar ôl mynd ar ei hôl hi o 20-0 erbyn diwedd yr hanner cynta’.
Dim ildio
“Fe allen nhw fod wedi ildio ar yr hanner yn erbyn un o dimau gorau’r byd ond wnaethon nhw ddim,” meddai Warren Gatland.
“Pe bai Jamie Roberts wedi croesi a’r cais wedi ei drosi gyda deg munud i fynd, fe fyddai wedi bod yn ddiddorol.
“Wnaeth Ffrainc ddim bygwth llinell Cymru ond fe wnaethon ni ildio gormod o giciau cosb ac roedd dau gais rhyng-gipio’n ddigon.”
Barn y chwaraewyr
“Falle ein bod ni’n haeddu rhywbeth o’r gêm. Ond falle ein bod ni wedi trio chwarae gormod o rygbi ar adegau.” – Shane Williams.
“Rhaid i ni wneud mwy na chwarae’n dda am ugain munud. Rhaid i ni ymestyn hynna tros wyth deg munud.” – y capten , Ryan Jones.