Cymru 20 Ffrainc 26
Yr un hen stori … dechrau trychinebus yn llawn camgymeriadau ac ail hanner yn llawn ysbryd a chwarae anturus, gwych.
Ond, y tro yma, roedd Ffrainc yn ddigon cyfrwys a phrofiadol i ddal arni, er gwaetha’ cais rhyfeddol yn y funud ola’ i Shane Williams.
Fe allai Cymru fod wedi ennill gydag un cyfle ardderchog yn cael ei golli a phawb yn gwaredu at y ddau gamgymeriad a roddodd geisiau rhyng-gipio i Ffrainc yn yr hanner cynta’.
Fe ddaeth symudiad gorau Cymru hyd hynny ar ôl 43 o funudau pan giciodd Shane Williams trwodd yn ei hanner ei hun a Hook yn cicio a chodi cyn dod yn agos at ollwng Bradley Davies yn rhydd, ond roedd y bas fymryn yn rhy uchel.
46 munud
Cic gosb. Stephen Jones yn cicio o flaen y pyst ar ôl i Ffrainc gam sefyll. Roedd hynny’n ei roi ar y blaen i Neil Jenkins ar frig sgorwyr Cymru yn y Chwe Gwlad.
Cymru 3 Ffrainc 20
49 munud
Cic gosb. Stephen Jones. Wrth i Gymru ddechrau rhoi pwysau, fe ddechreuodd Ffrainc ildio ciciau.
Cymru 6 Ffrainc 20
Roedd Cymru’n dechrau chwarae gydag ysbryd, gan ddechrau chwarae’n gyson yn hanner Ffrainc. Ond roedd y lein yn dal yn wantan … gyda Ffrainc yn dechrau gwegian, fe allai’r sgôr nesa’ fod yn allweddol un ffordd neu’r llall.
Gyda Bradley Davies yn chwarae’n wych, fe gymerodd y bêl yn y lein ac arwain sgarmes symudol gry’ tros 10 llath i gyfeiriad lein Ffrainc. Fe ildiodd Ffrainc gic gosb, ond yn lle mynd am y pyst fe giciodd Lee Byrne am y gornel a’i gyrru’n farw.
62 munud
Cais. Leigh Halfpenny drosodd yn y gornel ar ôl i Gymru ledu’r bêl ar draws y cae. Roedd Martyn Williams yn allweddol a phas hir gan Shane Williams yn rhyddhau ei gyd- asgellwr. Trosiad Stephen Jones o’r ystlys chwith.
Cymru 13 Ffrainc 20
Yn ystod y symudiad, roedd Morgan Parra wedi ei anfon i’r gell gosb am dacl uchel.
Fe ddaeth Ffrainc â Chabal a Michalak ymlaen i geisio sefydlogi pethau ond o fewn munudau, roedd Cymru’n agos yn y gornel ar ôl cic uchel gan Stephen Jones.
Ar ôl 68 munud, fe ddylai Cymru wedi dod yn gyfartal gyda bwlch gwych gan Jamie Roberts ar ôl cic bert gan Stephen Jones. Ond, fe ddaliodd Roberts ymlaen eiliad yn rhy hir cyn ei rhoi hi i James Hook.
71 munud
Cic gosb. Michalak o’r ystlys chwith ar ôl i Gymru ddatgymalu o’r sgarmes.
Cymru 13 Ffrainc 23
78 munud
Cic gosb. Morgan Parra ar ôl dod yn ôl ar y cae wedi i Gymru golli’r bêl yn y dacl a throseddu o flaen y pyst.
Cymru 13 Ffrainc 26
79 munud
Cais i Shane Williams. Pêl rydd ar yr hanner a Shane Williams yn curo tri neu bedwar dyn i gael ei 50fed cais a churo record Gareth Edwards am geisiau yn y Bencampwriaeth.
Trosiad Stephen Jones.
Cymru 20 Ffrainc 26
Gydag eiliadau ar ôl, roedd Michalak yn ddoethach na’r Albanwyr bythefnos yn ôl. Fe ail ddechreuodd trwy gicio tros yr ystlys a gorffen y gêm.
Llun: Shane Williams, torrwr dau record gyda chais rhyfeddol, yn ceisio torri’n rhydd (Gwifren PA)