Cymru 0 Ffrainc 20
Fe barhaodd Cymru gyda’u dechreuadau trychinebus a’r hen stori o gamgymeriadau di-ri.
Gyda Ffrainc yn llawer mwy peryglus na Lloegr na’r Alban, fe arweiniodd hynny at chwalfa yn yr hanner cynta’. Ond, o leia’ roedd y pum munud cynta’n weddol.
Gyda Chymru’n edrych yn dda a bywiog ymhlith y blaenwyr a’r Ffrancod yn beryglus wrth wrth-ymosod, fe ddaeth camgymeriad mawr cynta’r gêm gyda phas flêr gan Hook.
6 munud
Cais. Alexis Palisson, asgellwr chwith – rhyng-gipio pas hir gan Hook, ar yr hanner. Trosiad Morgan Parra.
Cymru 0 Ffrainc 7
Wrth i Gymru geisio naddu eu ffordd yn ôl i’r gêm, fe gafodd sawl cyfle addawol eu sbwylio eto gan gamgymeriadau bach. Ond fe ddechreuon nhw daclo’n galed hefyd.
19 munud
Cic gosb i Morgan Parra. Cymru wedi atal Ffrainc rhag bwydo’r bêl yn ôl.
Cymru 0 Ffrainc 10
Fe ddaeth cyfle mawr cynta’ Cymru ar ôl 21 munud wrth i Stephen Jones fod yn ddolen ddwywaith mewn symudiad cyn bylchu a chicio trwodd. Doedd James Hook ddim cweit digon cyflym i gyrraedd.
Ar ôl 24 munud, fe fu’n rhaid i’r ail reng Deiniol Jones adael ac yntau’n cael ei gap cynta’ ers blynyddoedd. Luke Charteris a ddaeth ymlaen yn ei le.
26 munud
Cic gosb i Morgan Parra. Cymru wedi plymio i mewn i ryc.
Cymru 0 Ffrainc 13
Roedd Cymru’n ceisio dod yn ôl i mewn iddi yn erbyn amddiffyn cyflym Ffrainc, ond roedd camgymeriad yn dod bron bob tro, a’r sgrym dan fwy o bwysau na’r disgwyl. Ac yna fe ddaeth camgymeriad trychinebus arall.
40 munud
Cais – Trinh-Duc yn rhyng-gipio ar ôli Shane Williams geisio torri. Trosiad Parra.
Cymru 0 Ffrainc 20
Llun: Stephen Jones yn cael ei daclo gan Bonnaire (Gwifren PA)