Mae dwsinau o bobol yn dal i gyfri’u harian bron wythnos ar ôl i beiriant arian parod yn ne Cymru ddechrau talu dwbl i gwsmeriaid.
Fe ddechreuodd pobol gynhyrfu ar ôl deall fod peiriant arian twll yn y wal mewn canolfan siopa ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn rhoi mwy o arian i bobol na’r hyn yr oedden nhw wedi gofyn amdano.
Fe wnaeth tafarn gerllaw’r peiriant wagio’n gyflym wrth i bobol ddechrau deall beth oedd yn digwydd.
Cyn pen dim, roedd ciw o hyd at 50 o bobol yn aros eu tro i dynnu arian o beiriant Swyddfa’r Post, meddai Natalie Brown oedd yn gweithio yn nhafarn The Two Brewers gerllaw.
Dechreuodd pobol ddefnyddio mwy nag un cerdyn gan dynnu’r symiau uchaf posibl allan o’r peiriant a phocedu cannoedd o bunnoedd yn ychwanegol yn y broses.
Bracla
Dim ond yn awr y daeth yr wybodaeth am yr helynt dechrau ddydd Sul diwethaf yng Nghanolfan Siopa Triangle, Bracla.
O fewn 45 munud, roedd car Heddlu wedi cyrraedd y safle ac roedd dau swyddog yn atal pobol rhag defnyddio’r peiriant.
Fe ddywedodd Natalie Brown fod sïon fod un dyn wedi gwagio tri chyfrif o £500 o bunnoedd gan dderbyn £1,000 bob tro.
Mae llefarydd ar ran Swyddfa’r Post wedi gwrthod dweud a fydd unrhyw gamau cyfreithiol yn cael eu cymryd i gael yr arian yn ôl.
Ond fe gadarnhaodd fod “nam ar y peiriant” ar y diwrnod hwnnw.
“Fe ddaethpwyd o hyd i’r nam ar unwaith ac fe gafodd y peiriant ei drwsio. Mae’n gweithio’n iawn yn awr,” meddai.
Llun: Un o gardiau Swyddfa;’r Post (llun o wefan y cwmni)