Mae rheolwr Abertawe, Paulo Sousa, wedi rhybuddio na fydd y gêm yn erbyn Peterborough yfory yn un hawdd i’w dim.
Mae Peterborough ar waelod y Bencampwriaeth, ac fe fydd yr Elyrch yn benderfynol o sicrhau buddugoliaeth i’w cadw yn y ras am un o safleoedd y gemau ail gyfle.
Er hynny, mae Sousa yn ymwybodol o’r problemau y gallai tîm Jim Gannon ei achosi i Abertawe.
“Mae pob gêm yn y Bencampwriaeth yn un anodd,” meddai rheolwr Abertawe. “Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio’n llwyr ar sicrhau ein bod ni’n chwarae gydag angerdd.
“Fe fydd rhaid i ni fod ar ein gorau oherwydd bydd amddiffyn Peterborough yn ei gwneud hi’n anodd i ni ddod o hyd i fylchau.”
Newyddion y tîm
Mae yna bosibilrwydd y bydd y chwaraewr canol cae, Ferrie Bodde, yn dechrau ei gêm gyntaf i Abertawe ers dioddef anaf ddechrau’r tymor.
Gydag Andrea Orlandi a Joe Allen wedi’u hanafu, fe allai’r Iseldirwr gael ei gyfle i ddychwelyd i chwarae i’r tîm cyntaf.
“Mae cyfle mawr gyda Ferrie i ddechrau’r gêm. Mae e mewn gwell cyflwr nawr nag oedd pan ddaeth e’n ôl i chwarae ddechrau’r tymor,” meddai Sousa.
“R’yn ni braidd yn brin o chwaraewyr canol cae y penwythnos yma, felly fe allai ddechrau.”
Mae Abertawe hefyd yn croesawu Leon Britton, Craig Beattie a Cedric van der Gun yn ôl i’r garfan.