Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi lansio gwefan ar y cyd gyda llyfrgelloedd eraill trwy wledydd Prydain er mwyn creu archif o’r Rhyngrwyd.
Nod y wefan fydd cadw cynnwys gwefannau yn gofnod hanesyddol o’n hoes ni – cyn iddyn nhw gael eu colli am byth.
Ond mae ofnau na fydd cofnod http://www.webarchive.org.uk yn un cynhwysfawr oherwydd cyfreithiau hawlfraint ar y we.
Yn ôl y Fonesig Lynne Brindley, prif weithredwr Llyfrgell Prydain, dim ond 1% o wefannau Prydain fydd wedi eu harchifo erbyn 2011.
Y broblem yw bod angen cael caniatâd y sawl sydd â’r hawlfraint cyn iddyn nhw allu cael eu cofnodi.
Mae’r Fonesig yn ofni na fydd archifwyr yn gallu cadw cofnod llawn, am na fydd cyfle i ofyn am ganiatâd perchennog pob gwefan i gadw cofnod digidol o’u gwaith.
Dechrau gyda’r Cynulliad a chyrff cyhoeddus
Yn ôl Rob Phillips o’r Llyfrgell Genedlaethol maen nhw eisoes wedi creu cofnod o 600 o wefannau o Gymru.
Maen nhw’n canolbwyntio’n bennaf ar wefannau Llywodraeth y Cynulliad, cyrff mawr, a gwefannau cymunedol fel papurau bro ac eisteddfodau lleol.
“Gyda’r gwefannau sy’n newid yn aml, fel gwefannau newyddion a blogiau, fe fyddwn ni’n cymryd copi yn rheolaidd,” meddai. “Ond gyda gwefannau eisteddfodau lleol fe fyddwn ni’n gwneud copi unwaith neu ddwywaith y flwyddyn.
“Bydd gwir werth y gwaith i’w weld ymhen 20 mlynedd pan fydd pobol eisiau edrych yn ôl a chael cofnod hanesyddol o’r cyfnod yma.
“R’yn ni wedi bod yn gwneud copïau digidol o wefannau ASau hefyd. Fe fydd yn ddiddorol mynd yn ôl a gweld os ydyn nhw wedi cadw at eu gair!”
Fersiwn Cymraeg
Dywedodd y bydd fersiwn Cymraeg o’r wefan yn cael ei lansio cyn hir.
“Mae gan lyfrgelloedd eisoes yr hawl i gael copi o lyfrau, cylchgronau a phapurau newydd,” meddai.
“Ond yr unig ffordd o ddiogelu’r wybodaeth sydd ar wefannau yw ymestyn y ddeddf fel bod gennym ni’r hawl i wneud copïau o’r we hefyd.”