Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, wedi dweud na fydd ei chwaraewyr yn canolbwyntio ar ddial ar Preston am y gweir a gawson nhw yn Deepdale y tymor diwethaf.

Mae nifer o gefnogwyr yr Adar Glas yn credu mai’r gosfa o 6-0 yn erbyn Preston oedd dechrau’r diwedd eu hymgyrch i gyrraedd y gemau ail gyfle.

Ond mae Dave Jones am i’w dîm ganolbwyntio ar wneud y pethau bach yn iawn er mwyn rhoi’r perfformiad gorau posib.

“Os ydych chi’n mynd i ddial, rydych chi’n canolbwyntio ar y pethau anghywir”, meddai Jones.

“Mae’n rhaid anghofio beth ddigwyddodd y tymor diwethaf. Wrth gwrs fe fydd pobl yn cofio’r canlyniad, ond fyddwn ni ddim yn ddigon da os ydi pawb yn meddwl am ddial.”

Taro’n ôl wedi Barnsley

Dywedodd Dave Jones fod ganodd fwy o ddiddordeb mewn sicrhau bod ei dîm yn taro’n ôl ar ôl y golled siomedig i Barnsley y penwythnos diwethaf.

“Ryden ni wedi gweithio’n galed yr wythnos yma. Am y tro cyntaf ers sbel hir, ryden ni wedi cael wythnos rydd i baratoi ar gyfer y penwythnos.

“Ryden ni wedi siarad tipyn, datrys rhai problemau a gwneud yn siŵr bod pawb yn barod ar gyfer dydd Sadwrn.”

Newyddion y tîm

Mae’r amddiffynnwr Anthony Gerrard a’r golwr David Marshall wedi pasio profion ffitrwydd yn dilyn anafiadau, ac fe fydd y ddau ar gael i herio Preston.

Mae’r chwaraewr ifanc addawol, Aaron Wildig, wedi bod yn dioddef o anaf i’w gefn, ond fe allai fod ar gael.

Yr unig amheuon eraill tymor byr yw Darcy Blake, sy’n dioddef o firws a’r ymosodwr, Warren Feeney, sy’n debygol o fod yn absennol oherwydd bod ei wraig yn disgwyl babi yn fuan.

Mae Mark Hudson, Joe Ledley, Stephen McPhail a Kelvin Etuhu yn parhau i fod ar y rhestr anafiadau tymor hir.