Fe ddaeth dau arwydd arall o argyfwng y byd pêl-droed wrth i’r clwb Uwch Gynghrair cynta’ erioed fynd i ddwylo’r gweinyddwyr ac wrth i glwb sydd yn chwarae yng Nghymru gael ei daflu o’i gynghrair yntau.
Clwb Portsmouth sydd wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr – yn ôl y disgwyl – ac mae’n wynebu colli naw phwynt.
Portsmouth yw’r clwb cyntaf o’r Uwch Gynghrair i fynd i ddwylo’r gweinyddwyr ar ôl methu â dod o hyd i brynwr newydd i glirio dyledion o tua £70m.
Fe fyddai cosb o golli naw pwynt fwy neu lai yn sicrhau bod y clwb yn disgyn allan o’r Uwch Gynghrair i’r Bencampwriaeth.
Caer
Cafodd Caer eu gwahardd o gynghrair Blue Square heddiw ar ôl iddyn nhw gyfaddef torri pump o’r rheolau.
Fe bleidleisiodd 75% o aelodau’r gynghrair i gosbi’r clwb, sy’n golygu na fydd yn chwarae gweddill ei gemau y tymor yma, gan gynnwys un yn erbyn Wrecsam.
Gohiriwyd y gêm wreiddiol yn Stadiwm Deva – doedd yr heddlu ddim yn fodlon ei blismona, am nad oedd y clwb wedi eu talu am eu gwasanaeth y tro diwethaf.
Mae Caer hefyd yn wynebu gorchymyn i ddirwyn y clwb i ben ar 10 Mawrth. Mae eu stadiwm yn union ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, gyda’r cae chwarae ei hun ar yr ochr yma.
Roedd clwb Uwch Gynghrair Cymru, y Seintiau Newydd, wedi ystyried rhannu cartref gyda Chaer y tymor nesaf, ond fe fydd y newyddion diweddaraf yn codi amheuon ynglŷn â dyfodol Caer a Stadiwm Deva.