Mae capten Cymru, Ryan Jones wedi dweud bod y gêm yn erbyn Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm heno yn un “enfawr” i’r tîm.
Mae Ffrainc yn chwilio am eu trydedd fuddugoliaeth yn olynol, ac yn anelu am y Gamp Lawn.
Ond pe bai Cymru’n ennill, fe fydden nhw’n teithio i Iwerddon mewn pythefnos yn llawn obeithio ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Gwych
Mae Ryan Jones yn ymwybodol y bydd rhaid i Gymru fod ar eu gorau os ydyn nhw am gael unrhyw obaith o faeddu’r Ffrancwyr.
“Mae Ffrainc wedi bod yn wych yn ystod eu dwy gêm ddiwethaf, felly fe fydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau,” meddai Jones. “Os gallwn ni ganolbwyntio ar gael trefn ar bopeth fe fyddwn ni’n iawn.
“Pethau bach fel methu â thaclo a cholli meddiant sy’n costio gêmau i ni.”
Mae Ryan Jones hefyd yn credu bod rhaid i Gymru ddechrau’r gêm yn llawer cryfach nag a wnaethon nhw yn erbyn Lloegr a’r Alban.
“Allwn ni ddim fforddio mynd ar ei hôl hi. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn dechrau’n dda.”
Cymru v Ffrainc- Y Ffeithiau
Mae Cymru wedi herio Ffrainc 86 o weithiau.
Mae Cymru wedi ennill 43 gêm, Ffrainc yn llwyddo 40 gwaith a thair gêm yn gyfartal.
Fe ddaeth buddugoliaeth fwyaf Cymru dros Ffrainc yn 1909 o 5-47.
Buddugoliaeth fwyaf Ffrainc yn erbyn Cymru oedd pan enillodd y Ffrancwyr 51-0 yn 1998.
O 1908 tan 1927, fe faeddodd Gymru Ffrainc pymtheg gwaith yn olynol.
Rhwng 1983 a 1993, enillodd Ffrainc 12 gêm yn olynol yn erbyn Cymru.