Mae Cymro sy’n gyn brîf weithredwr banc wedi dweud y dylai bonwsau gael eu gohirio am flynyddoedd i ddod.

Dywedodd Dyfrig John, oedd yn arwain HSBC ym Mhrydain ac Ewrop, y dylai’r bonwsau gael eu dal yn ôl am dair blynedd nes bod y dirwasgiad ariannol heibio’r gwaetha’.

Cafodd Dyfrig John ei wobrwyo gyda CBE gan y Frenhines heddiw – yr unig fanciwr i gael ei wobrwyo eleni – am ei rôl yn ail-strwythuro adain Brydeinig HSBC yn ystod ei yrfa o 38 mlynedd.

“Mae HSBC wedi bod yn rhoi bonwsau bob tair blynedd ers blynyddoedd,” meddai Dyfrig John, sy’n Gymro Cymraeg ac yn dod yn wreiddiol o Sir Benfro. “Dyna’r cyfeiriad iawn – bod pobol yn ennill bonws dros fwy o amser.

“Mae yna lot o bobol yn anhapus ar hyn o bryd a dw i’n cydymdeimlo gyda chyfranddalwyr, felly mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ateb rywle.”

Doedd dim angen arian y llywodraeth ar HSBC pan aeth y diwydiant drwy ei argyfwng mwyaf ers cyn cof.

Ddoe dywedodd banc RBS eu bod wedi gwneud colled o £3.6 biliwn ond y bydden nhw’n talu £1.6 biliwn mewn bonwsau a heddiw cyhoeddodd banc Lloyds golled – a bonwsau.

‘Hyder’

Wrth drafod ei yrfa 38 mlynedd, dywedodd Dyfrig John, sydd bellach yn byw ym Mhenarth, ei fod wedi “mwynhau pob eiliad ohoni”.

“Mae’n annhebygol y byddai nifer o fancwyr y dyddiau yma yn gallu dweud eu bod nhw wedi mwynhau pob eiliad.

“Ond roedd yna flynyddoedd anodd yn y diwedd pan oeddwn i a rhai o’r prif weithredwyr eraill yn treulio lot o amser gyda’r Trysorlys a Banc Lloegr yn ceisio datrys y problemau oedd gyda ni.

“Fel diwydiant d’yn ni wedi gwneud pethau’n iawn ond mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein delwedd gyhoeddus. Rhaid i ni weithio’n galed i adennill hyder oherwydd hyder sydd wrth galon bancio.”