Mae myfyrwraig chweched dosbarth wedi cael ei charcharu am bum mlynedd am ladd ei chariad gyda chyllell ar noson ei chanlyniadau lefel ‘A’.

Trawodd Katherine McGrath, 19 oed, gyllell finiog i galon Alyn Thomas, 22 oed, yn ystod dadl ar ôl noson allan yn yfed gyda ffrindiau. Roedd hi wedi ei chael yn euog o ddynladdiad.

Wrth ei dedfrydu hi i bum mlynedd mewn sefydliad troseddwyr ifanc, dywedodd yr Ustus Griffith Williams wrth Lys y Goron yng Nghaerdydd “ nad oedd y rheithgor wedi clywed y gwir i gyd”.

“Dim ond chi sy’n gwybod beth ddigwyddodd yng nghegin eich cartref,” meddai wrth y ferch o Bracla ger Pen-y-bont ar Ogwr.

“Mae’n amlwg eich bod chi eich dau wedi ffraeo. Beth bynnag wnaeth arwain at y ffrae honno fy marn i yw nad ef oedd yr unig un i ymddwyn yn ymosodol.

“Rydw i’n derbyn nag oeddech chi’n golygu ei ladd neu ei anafu’n ddifrifol a dw i’n fodlon derbyn ei fod wedi eich pryfocio chi.”

Ond dywedodd bod gafael mewn cyllell yn or-ymateb a’i bod hi wedi “cymryd bywyd dyn ifanc oddi arno”.